15 Ionawr 2024
Mae treial ymchwil newydd a agorwyd yn ddiweddar, yn nodi'r treial dyfais feddygol fasnachol gyntaf dan arweiniad tîm Ymchwil Radiotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Mae'r treial SABRE yn cynnwys defnyddio'r system SpaceOAR Vue a ddyluniwyd gan Boston Scientific mewn cleifion sy'n cael eu trin â radiotherapi ar gyfer canser y prostad.
Mae therapi ymbelydredd yn hynod effeithiol wrth dargedu a thrin canser y prostad. Gall y sgîl-effeithiau fod yn ysgafn a mynd i ffwrdd ar eu pen eu hunain ond i rai cleifion, gallant bara am flynyddoedd ar ôl triniaeth, a gallant effeithio ar ansawdd bywyd.
Mae Felindre yn un o ddwy ganolfan yn unig yn y DU sy'n cymryd rhan yn y treial hwn, sy'n cyfuno'r defnydd o'r gwahanydd ('spacer' yn Saesneg) gyda phum sesiwn o driniaeth radiotherapi, rhywbeth y mae gan y gwasanaeth radiotherapi brofiad ynddo.
Meddai Matthew Lazarus, Uwch Radiograffydd Ymchwil yng Nghanolfan Ganser Felindre:
"Mae hyn yn gyffrous, gan nad ydym yn gweld llawer o dreialon masnachol mewn radiograffeg, a dyma ein treial dyfais fasnachol feddygol gyntaf.
"Gellir trin canser y prostad, ond gall y driniaeth gael sgîl-effeithiau parhaol, gan gynnwys dolur rhydd, rhwymedd a niwed i'r wal rhectrol. Mae'r gwahanydd wedi'i ddylunio i leihau'r sgîl-effeithiau tymor hir yn sgîl cael radiotherapi i'r rectwm.
"Mae diddordeb yn yr astudiaeth gan ein cleifion wedi bod yn wych, ac rydym wedi recriwtio ein claf cyntaf i gymryd rhan yn y treial. Maen nhw wedi gosod y gwahanydd ac ar hyn o bryd, yn cynllunio eu triniaeth radiotherapi. Mae gennym dri chlaf arall sydd â diddordeb yn y treial ar hyn o bryd, ac sy’n ei ystyried fel opsiwn.
"Mae gennym brofiad gyda gwahanydd, ac rydym wedi cydweithio â Boston Scientific o’r blaen, felly mae cael y treial hwn yn adlewyrchiad go iawn o arbenigedd a phrofiad."
Mae SpaceOAR Hydrogel yn creu rhwystr dros dro rhwng y prostad a'r rectwm, ac yn lleihau'r dos o ymbelydredd sydd yn cael ei ddanfon i'r rectwm yn ystod therapi ymbelydredd y prostad. Oherwydd eu bod mor agos, gall therapi ymbelydredd y prostad achosi niwed anfwriadol i'r rectwm, a allai arwain at broblemau gyda swyddogaeth y coluddyn.
Mae dau bowdwr yn cael eu cymysgu â hydoddiant, sydd yn cael ei chwistrellu fel hylif drwy nodwydd fechan sydd yn cael ei rhoi rhwng y rectwm a'r prostad. Mae'r hylif yn caledu i wead pêl fownsio, ond nid ydy’r claf yn gallu ei deimlo pan fydd yn ei le.
Trwy weithredu fel gwahanydd, mae'r hydrogel yn symud y rectwm hanner modfedd (2.3 cms) i ffwrdd o'r prostad, dros dro.
Mae gan y gel ddŵr ynddo, ac mae'n torri lawr i foleciwlau dŵr sydd yn cael eu pasio gan y corff o fewn chwe mis ar ôl cael y pigiad.