Neidio i'r prif gynnwy

Y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn cael ei chyflwyno yng nghynhadledd Dylunio Gofal Iechyd Ewrop

17 Mehefin 2026

Tynnodd aelodau o dîm y Ganolfan Ganser Felindre newydd (CGFn) sylw at sut mae'r prosiect yn darparu un o ganolfannau canser mwyaf cynaliadwy'r DU mewn cynhadledd fawreddog.

Tynnodd dau o'r tîm sylw at y prosiect yng nghynhadledd Dylunio Gofal Iechyd Ewrop a gynhaliwyd yn Llundain ar Fehefin 15/16.

Fe wnaeth y sesiwn, ““Building the UK’s greenest cancer centre: A holistic, collaborative home for future-focused healthcare”, edrych ar sut mae ein cartref newydd yn cyfuno adeilad modern sy’n darparu gofal clinigol o’r radd flaenaf ochr yn ochr â hyblygrwydd hirdymor, cymwysterau amgylcheddol blaenllaw, a gofod sy’n hyrwyddo lles staff a chleifion.

Amlinellodd y cyflwyniad hefyd sut mae'r CGFn yn nodi newid yn nyluniad a darpariaeth cyfleusterau gofal iechyd, a thrafododd y bartneriaeth rhwng Felindre, Sacyr, a chonsortiwm Acorn.

Dywedodd uwch reolwr prosiect CGFn, Craig Sailsbury: “Rydym yn falch fod y CGFn yn gosod meincnodau newydd ar gyfer gofal iechyd cynaliadwy ac ar yr un pryd, yn darparu lle modern sydd yn gallu darparu'r gofal canser o'r radd flaenaf y mae Felindre yn adnabyddus amdano. Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gallwn ddylunio a chyflenwi adeiladau gofal iechyd sy'n ateb anghenion heddiw, ac sy’n barod i addasu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Michael Woodford, cyfarwyddwr yn White Arkitekter, y penseiri sy'n arwain ar y Ganolfan Ganser newydd: “Mae’r CGFn yn cynrychioli cenhedlaeth newydd o ddylunio gofal iechyd, lle rhoddir pwys cyfartal ar berfformiad amgylcheddol, rhagoriaeth glinigol a’r profiad dynol. Mae wedi bod yn fraint helpu i lunio adeilad sydd nid yn unig yn un o ganolfannau canser mwyaf gwyrdd y DU ond sydd hefyd, yn amgylchedd adferol sy'n hyrwyddo lles i gleifion a staff.”

Trafododd y tîm sut mae'r CGFn yn gosod meincnod newydd ar gyfer cyfleusterau gofal iechyd carbon isel sy'n perfformio'n dda. Mae lleihau'r effaith amgylcheddol wedi bod yn ganolog i'r prosiect ers y diwrnod cyntaf, gan arwain at adeilad a fydd yn perfformio'n llawer gwell na meincnodau gofal iechyd nodweddiadol y DU, gan gynnwys defnyddio llai o ynni gweithredol a llai o garbon ymgorfforedig.

Thema allweddol arall yn y sesiwn oedd hyblygrwydd, a sicrhau y gall y CGFn esblygu a newid ochr yn ochr â datblygiadau mewn gofal canser. Bydd mannau clinigol hyblyg, seilwaith digidol clyfar a chynlluniau addasadwy yn caniatáu i'r CGFn ymateb yn well i anghenion cleifion a modelau gwasanaeth sy'n newid dros amser pan fo angen.

Pwysleisiodd siaradwyr hefyd y pwysigrwydd o greu adeilad sy'n cefnogi pawb sy'n ei ddefnyddio. Mae'r CGFn wedi cael ei gynllunio gydag anghenion cleifion, staff, teuluoedd a gofalwyr o'r cychwyn cyntaf. O fedru dod o hyd i’ch ffordd yn well o gwmpas y Ganolfan a mwy o lefydd parcio, i fannau therapiwtig ac ardaloedd pwrpasol i deuluoedd, bydd yr adeilad newydd yn gwella cysur, urddas a'r profiad gofal cyffredinol.

Ochr yn ochr â hyn, mae model ariannu gwell a rhaglen budd cymunedol yn helpu i sicrhau bod y CGFn yn cyflawni gwerth cymdeithasol hirdymor trwy ddarparu swyddi lleol, datblygu sgiliau a buddsoddiad cymunedol.