Neidio i'r prif gynnwy

Treial clinigol pelydr proton newydd ar gyfer Felindre

Tîm Pelydr Proton

12 Tachwedd 2024

 

Treial clinigol yw APPROACH, sy’n edrych ar therapi pelydr proton ar gyfer pobl sydd â thiwmor ar yr ymennydd o’r enw oligodendroglioa, a dyma’r cyntaf o’i fath ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd yn Felindre.

Mae cleifion sydd â'r math hwn o diwmor ar yr ymennydd yn cael llawdriniaeth yn gyntaf i dynnu cymaint o'r tiwmor â phosibl. Y cam nesaf fel arfer yw cael radiotherapi ac yna cemotherapi.

Gall radiotherapi ymennydd safonol ar gyfer oligodendroglioma achosi sgîl-effeithiau hirdymor, sydd yn gallu datblygu flynyddoedd ar ôl triniaeth. Gall y rhain gynnwys problemau gyda’r cof ac anhawster yn prosesu gwybodaeth, a gall y ddau ohonynt effeithio ar ansawdd bywyd y claf.

Yn y treial APROACH, mae cleifion yn cael eu rhannu ar hap yn ddau grŵp - mae un grŵp yn derbyn radiotherapi a chemotherapi safonol, mae'r grŵp arall yn cael therapi pelydr proton a chemotherapi. Bydd ymchwilwyr yn cymharu'r ddau grŵp, ac yn asesu’r sgîl-effeithiau, ansawdd bywyd a’r cyfraddau goroesi.

Mae therapi pelydr proton yn fath datblygedig o radiotherapi, sy'n defnyddio pelydryn o ronynnau proton â gwefr uchel i dargedu'r tiwmor a darparu dosau llai o radiotherapi i'r ymennydd iach.

 

Mae Dr James Powell yn gyd-ymchwilydd ar y treial clinigol hwn.
“Nid ydym yn disgwyl unrhyw wahaniaeth mewn rheoli twf y tiwmor rhwng y ddau fath o radiotherapi, gan fod therapi pelydr proton yn darparu’r un dos o radiotherapi i gleifion â’r driniaeth safonol.

“Yr hyn y byddwn yn ei fesur yw a yw defnyddio'r math hwn o radiotherapi wedi'i dargedu yn lleihau'r sgîl-effeithiau ac yn gwella ansawdd bywyd cleifion ag oligodendroglioma.

“Er mwyn asesu’r sgil-effeithiau hirdymor, byddwn yn monitro pob claf am bum mlynedd ar ôl eu triniaeth.

“Mae hwn yn opsiwn triniaeth newydd cyffrous i gleifion sydd yn cymryd rhan yn y treial clinigol, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddatblygiadau mewn gofal i bobl sydd â’r math penodol hwn o diwmor ar yr ymennydd.”

 

Bethan Thomas oedd y claf cyntaf yng Nghymru i dderbyn therapi pelydr proton fel rhan o dreial clinigol APPROACH.

“Roeddwn i’n bwriadu cael radiotherapi beth bynnag, y tu allan i’r treial. Ond roedd bod yn rhan o’r treial yn golygu, hyd yn oed petaswn i’n cael fy newis ar hap i dderbyn radiotherapi, y buaswn yn cael fy monitro’n agos gydag ymweliadau rheolaidd gyda’r ymgynghorydd, a sganiau rheolaidd am bum mlynedd.

“Nid yw therapi pelydr proton ar gael yn eang i bawb, nid yw ar gael yng Nghymru, felly roedd cael y cyfle i gymryd rhan yn y treial a chael y driniaeth orau, yn sicr yn rhywbeth nad oeddwn yn gallu ei wrthod!”

 

Dim ond mewn dwy ganolfan GIG yn y DU y mae therapi pelydr proton ar gael - yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain ac yn y Christie ym Manceinion. Bydd cleifion o Gymru yn cael eu therapi pelydr proton yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain.

Mae APPROACH yn cael ei arwain gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Leeds ac yn cael ei ariannu gan bartneriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a'r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).