6 Medi 2023
Mae PATHOS, treial clinigol a noddir ar y cyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Phrifysgol Caerdydd, yn dreial rhyngwladol Cam III, sydd â'r nod o ddatblygu triniaeth fwy caredig i gleifion â chanser y pen a'r gwddf.
Mae'n edrych ar rôl triniaeth llai dwys i gleifion sydd wedi cael llawdriniaeth sy'n creu archoll mor fach â phosib, ar ôl i’w canserau brofi'n bositif am y feriws HPV (Human Papilloma Virus). Cafodd y 1000fed claf ei recriwtio yn ystod wythnos olaf Awst 2023, yng Nghanolfan Pen a Gwddf Lerpwl.
"Mae'n anrhydedd i mi arwain PATHOS, ynghyd â'r Athro Terry Jones o Brifysgol Lerpwl. Mae recriwtio'r 1000fed claf y tu hwnt i'n holl ddisgwyliadau, ac mae'n deyrnged i'r holl waith caled sydd wedi cael ei wneud gan dimau ymchwil mewn safleoedd ar draws y DU, yn ogystal ag yn Ffrainc, yr Almaen, Awstralia ac UDA.
"Erbyn i PATHOS orffen recriwtio y flwyddyn nesaf, rydym yn credu mai hwn fydd y treial clinigol mwyaf sydd wedi cael ei gynnal erioed mewn cleifion â chanser y pen a'r gwddf, a gallai'r canlyniadau wella triniaeth ar gyfer cleifion â chanser y pen a'r gwddf sy'n gysylltiedig â HPV ar draws y byd.
"Rwy'n ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth anhygoel mae'r treial wedi'i chael gan fy nghydweithwyr yma yn Felindre, gan gynnwys Dr Richard Webster, Dr Nachi Palaniappan, Dr Emma Higgins, Owain Woodley a Jack Pritchard o dîm Sicrhau Ansawdd Treialon Radiotherapi, a Claire Donnithorne o’r adran fferylliaeth.
"Rwyf yn ddiolchgar dros ben hefyd i dîm Ymchwil a Datblygu Felindre dan arweiniad Sarah Townsend, ac i gydweithwyr Prifysgol Caerdydd, am eu holl gefnogaeth fel Noddwyr y treial. Diolch yn fawr iawn!". Yr Athro Mererid Evans, Oncolegydd Ymgynghorol, Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Mae canser y pen a'r gwddf sy'n gysylltiedig â HPV, ac sydd fel arfer yn cynnwys y tonsiliau a gwaelod y tafod, wedi dod yn fwy a mwy cyffredin dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae cleifion yn aml yn gwella o'u clefyd, ond mae'n rhaid iddyn nhw fyw gyda sgil-effeithiau eu triniaeth, yn enwedig problemau llyncu, a allai fod yn barhaol, a chael effaith fawr ar ansawdd eu bywyd.
Mae PATHOS yn ceisio darganfod p’un a allai'r grŵp hwn o gleifion gael triniaeth lai dwys ac o ganlyniad, profi llai o sgîl-effeithiau. Rydym yn disgwyl i ganlyniadau'r astudiaeth gael eu hadrodd erbyn 2027.
"Mae hwn yn gyflawniad gwych! Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o noddi’r astudiaeth, ac rwy'n falch iawn bod yr astudiaeth bwysig hon yn hygyrch i gynifer o gleifion. Mae astudiaethau fel PATHOS yn cyflwyno gobaith go iawn ar gyfer y dyfodol ar gyfer gwella canlyniadau i gleifion, yn yr achos hwn, nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol hefyd." Sarah Townsend, Pennaeth Ymchwil a Datblygu a Chynrychiolydd Noddwyr, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Mae PATHOS yn cael ei ariannu gan ymgyrch Cancer Research UK (CRUK), Stand Up To Cancer (SU2C), a'r Gronfa Datblygu Radiotherpi.
Mae'r treial yn cael ei gynnal drwy'r Ganolfan Ymchwil Treialon Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r Athro Terry Jones o Brifysgol Lerpwl yn Brif Ymchwilydd, ochr yn ochr â'r Athro Mererid Evans o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Mae'r treial yn cael ei noddi ar y cyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Phrifysgol Caerdydd.