19 November 2026
Daeth mwy na 60 o gydweithwyr clinigol o bob rhan o Wasanaeth Canser Felindre at ei gilydd yn gynharach heddiw ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Archwilio, Marwolaethau a Morbidrwydd cyntaf erioed.
Mae'r digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi yr Eglwys Newydd, yn nodi cam pwysig ymlaen mewn perthynas â chryfhau dysgu ar y cyd, myfyrio a sicrhau gwelliant parhaus ar draws y gwasanaeth.
Daeth y digwyddiad â chlinigwyr, nyrsys arbenigol, ymarferwyr uwch ac arweinwyr gwasanaethau at ei gilydd i adolygu’r hyn y gellir ei ddysgu o adolygiadau marwolaethau, digwyddiadau diogelwch cleifion, gwelliannau i wasanaethau a gwaith archwilio.
Cafodd y digwyddiad ei gynllunio i greu fforwm pwrpasol ar gyfer dysgu ar draws arbenigeddau a grwpiau proffesiynol. O hyn ymlaen, bydd yn cael ei gynnal bob chwe mis i atgyfnerthu ymrwymiad Gwasanaeth Canser Felindre i welliant parhaus ac i ddarparu'r safonau gofal uchaf i gleifion.
Wrth agor y digwyddiad, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Meddygol Dr Carys Morgan bwysigrwydd creu cyfleoedd i gydweithwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu profiadau a chryfhau llwybrau ar draws y sefydliad.
Dywedodd Dr Morgan: "Mae creu lle i gydweithwyr ddod at ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd yn bwysig dros ben. Mae'r digwyddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i welliant parhaus ac i sicrhau bod dysgu'n cael ei rannu ar draws ein gwasanaeth.
"Drwy gymryd amser i fyfyrio ar yr heriau a'r llwyddiannau, gallwn gryfhau'r gofal a ddarparwn yn sylweddol. Mae digwyddiadau fel heddiw yn gyfleoedd i ni rannu ein dysgu ar y cyd yn ehangach, lledaenu syniadau da, ac yn y pen draw, gwella canlyniadau i'n cleifion.”
Roedd y prynhawn yn cynnwys sawl cyflwyniad, gan gynnwys trosolwg o ddata marwolaethau a’r broses adolygu bresennol, ynghyd â thrafodaethau am ddirywiad acíwt, uwchgyfeirio, a’r hyn a ddysgwyd o ddigwyddiadau arwyddocaol.
Clywodd cydweithwyr hefyd gyflwyniadau a oedd yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch, dysgu am y llinell cymorth triniaeth, ac ar enghreifftiau o welliannau i wasanaethau sydd yn digwydd ar draws Gwasanaeth Canser Felindre.
Drwy gydol y digwyddiad, canolbwyntiodd y trafodaethau nid yn unig ar nodi cyfleoedd i wella ond hefyd, ar gydnabod enghreifftiau o arfer da a'r newidiadau cadarnhaol sydd eisoes yn cael eu rhoi ar waith ar draws gwasanaethau.
Hyrwyddo gwelliant ac arloeseddNodwedd allweddol o'r digwyddiad oedd yr arddangosfa posteri archwilio a gwella, a oedd yn arddangos gwaith gan dimau ar draws y sefydliad.
Roedd y posteri yn tynnu sylw at ystod eang o archwiliadau, gwerthusiadau, prosiectau gwella ansawdd a datblygu gwasanaethau. Fe wnaethant ddangos ehangder y gweithgareddau arloesi a gwella sy'n digwydd ar draws Gwasanaeth Canser Felindre.
Wrth fyfyrio ar y cyflwyniadau a'r posteri wedyn, ychwanegodd Dr Morgan: "Un o'r pethau mwyaf gwobrwyol heddiw oedd gweld yr ystod o waith gwella sydd yn digwydd ar draws ein gwasanaeth. Fy ngobaith yw y bydd cydweithwyr yn gadael heddiw gyda gwell dealltwriaeth o sut y gall gwahanol rannau o'n gwasanaeth ddysgu oddi wrth ei gilydd.
"Mae rhywfaint o'r dysgu mwyaf gwerthfawr yn dod o drafod profiadau go iawn yn agored, a myfyrio ar beth y gallwn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol. Roedd pob cyflwyniad a phoster yn cynrychioli cydweithwyr yn cymryd yr amser i ofyn cwestiynau, gwerthuso arferion a chwilio am ffyrdd o wella gofal. Rydym yn falch iawn o'r staff sydd wedi cymryd rhan, a fydd o fudd mawr i'n cleifion."
Mae'r digwyddiad yn rhan o uchelgais ehangach i barhau i atgyfnerthu diwylliant clinigol lle mae dysgu, myfyrio a gwella yn cael eu cydnabod fel rhan graidd o ymarfer bob dydd.
Drwy ddod â chydweithwyr at ei gilydd i drafod profiadau a chyfleoedd gwella yn agored, nod y digwyddiad oedd cefnogi gofal mwy diogel a llwybrau clinigol cryfach i gyflawni canlyniadau gwell i gleifion.
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf, mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ailadrodd y digwyddiad bob chwe mis fel nodwedd reolaidd o ddiwylliant dysgu clinigol Gwasanaeth Canser Felindre.
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu gofal canser arbenigol i fwy na 1.5 miliwn o bobl ar draws De Ddwyrain Cymru a thu hwnt. Fel rhan o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae gwasanaethau’n cael eu darparu trwy fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’, gyda Chanolfan Ganser Felindre yn gwasanaethu fel canolfan driniaeth, addysgu ac ymchwil arbenigol ar gyfer oncoleg anfeddygol.
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn darparu ystod eang o driniaethau, gan gynnwys cemotherapi, triniaethau gwrth-ganser systemig (SACT), radiotherapi a gofal lliniarol arbenigol. Drwy ddysgu, arloesi, ymchwil a gwella gwasanaethau, mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i gleifion a theuluoedd ar draws Cymru.