Neidio i'r prif gynnwy

Tîm yn Felindre'n helpu i sicrhau gwerth £1.3 miliwn o gymorth i gleifion

18 Hydref 2024

Mae Tîm Budd-daliadau Lles Macmillan yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi helpu cannoedd o deuluoedd i sicrhau gwerth dros filiwn o bunnoedd o gymorth ariannol mewn cyn lleied â thri mis.

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2024, fe wnaeth y tîm geisiadau llwyddiannus am werth £1.3 miliwn o fudd-daliadau a grantiau ar gyfer 300 a mwy o gleifion a’u teulu.

Mae Gwasanaeth Hawliau Lles Felindre, a noddir gan Macmillan, yn wasanaeth cyngor sydd wedi ei achredu â Safon Ansawdd Cyngor (Advice Quality Standard). Mae’r gwasanaeth yn helpu cleifion gyda cheisiadau ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, o fudd-daliadau iechyd i fathodynnau parcio anabl.

Meddai Hayley Price, Rheolwr Hawliau Lles yng Nghanolfan Ganser Felindre “Mae hwn yn gyrhaeddiad enfawr ac mae’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd a lles y rheiny rydyn ni’n eu cefnogi.

“Rydyn ni’n gwybod bod diagnosis o ganser yn gallu cael effaith fawr ar eich sefyllfa ariannol, p’un a ydych chi’n gweithio neu beidio. Ar ben hynny, mae llawer o bobl yn teimlo’r pwysau o reoli eu harian wrth i gostau byw barhau i fod yn broblem.”

“Rydyn ni gerllaw i helpu cleifion, teuluoedd a’u gofalwyr i ddefnyddio’r system fudd-daliadau, helpu pobl i weithio allan beth gallen nhw ei hawlio ac o bosib pa fudd-daliadau allai fod yn well iddyn nhw.”

Mae modd gwneud atgyfeiriadau am gyngor ynglŷn â budd-daliadau yn uniongyrchol i’r Tîm Budd-daliadau Lles rhwng dydd Llun a dydd Gwener drwy ffonio 02920 316277 neu e-bostio vcc.supportivecare@wales.nhs.uk.