20 Mehefin 2024
Yn ddiweddar, cawsom y newyddion trist fod Alan Buckle, claf treial clinigol ers amser maith ac eiriolwr cryf dros Felindre, wedi marw.
Roedd Alan yn byw yng Nghaerdydd a daeth ymlaen i dreial clinigol gyda ni am y tro cyntaf tua 12 mlynedd yn ôl. Roedd yn rhedeg allan o opsiynau safonol ar gyfer trin canser y prostad a'i oes realistig oedd misoedd nid blynyddoedd. Ar y pwynt hwn, ymunodd Alan â'r treial Cam I cyntaf erioed yn Felindre, a'i gwelodd yn dod yn un o'r cyntaf yn y byd i gael cyffur newydd, sydd wedi mynd ymlaen i fod yn safon gofal ar gyfer canser y prostad.
Cymerodd Alan ran mewn tri threial Cam 1 pellach dros y naw mlynedd nesaf, bob amser yn awyddus i gefnogi ymchwil. Yn un o'r rhain derbyniodd therapi hormonau sefydledig ar gyfer canser y prostad (Abiraterone) ar y cyd â chyffur arbrofol, Olaparib. Unwaith eto, helpodd cyfranogiad Alan i gael cymeradwyaeth Olaparib fel safon gofal mewn canser y prostad.
Cymerodd Alan ran mewn pedwar treial clinigol i gyd yn Felindre, a daeth yn eiriolwr go iawn dros ymchwil. Siaradodd mewn cyfarfodydd, bu'n ymwneud ag elusen Felindre ac mewn digwyddiadau Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd, a chyfrannodd at ddatblygu strategaeth.
Roedd Alan bob amser yn teimlo bond arbennig gyda'r tîm ar yr uned Cam I, ac yn dweud ei fod yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus gyda nhw, a'u bod nhw wedi gwneud ei fywyd yn llawer gwell. Bob Nadolig, byddai'n dod â chwpl o gasys o win i mewn i ddangos ei ddiolch!
Roedd Alan yn parhau i fod yn llawn gobaith ac optimistiaeth am y driniaeth newydd nesaf, ar gyfer ei iechyd ei hun ond hefyd, ar gyfer cleifion y dyfodol.
Daeth yr Athro Rob Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer RD&I i adnabod Alan yn dda dros y blynyddoedd trwy’r treialon clinigol y cymerodd ran ynddynt:
“Pobl fel Alan sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ofal canser, pobl sy’n fodlon cymryd risg er mwyn i gleifion y dyfodol allu elwa.
Roedd yn ysbrydoliaeth go iawn i ni, a bob amser yn barod i roi o'i amser ei hun i'n helpu i hyrwyddo'r agenda treialon clinigol ac ymchwil. Teithiodd Alan gyda ni i gyfarfodydd diwydiant ar draws y DU, ac roedd bob amser yn creu argraff fawr gyda'i areithiau hynod drawiadol. Roedd yn siarad yn emosiynol am y gwahaniaeth roedd ymchwil wedi’i wneud i’w fywyd, yn enwedig rhoi amser iddo dreulio gyda’i wyrion a’i wyresau, a chwarae golff wrth gwrs!
Roedd yn ddyn hyfryd, a bydd colled fawr ar ei ôl. Mae’n anrhydedd bod wedi cael ei adnabod.”
Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, daeth Alan yn gefnogwr mawr i’n hymgyrch i gael gwell sgyrsiau diwedd oes ac ymyriadau fel CPR. Yn wir, roedd ei lun ar ein poster mewn cynhadledd yn Barcelona ym mis Mai 2024, ar yr union bwnc hwnnw.
Mae'r Athro Mark Taubert, Cyfarwyddwr Clinigol ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Liniarol yn cofio'r amser a dreuliwyd gydag Alan yn eiriol dros gleifion yn gwneud penderfyniadau diwedd oes:
“Yn 2017, fe wnaeth y British Medical Journal ein rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr, a gwirfoddolodd Alan i ddod i Lundain gyda mi ar gyfer y seremoni. Roedd Alan wedi ein helpu i greu’r fideos TalkCPR a achosodd gynnwrf, gan eu bod yn trafod y pwnc tabŵ weithiau ‘na cheisir CPR’ tua diwedd oes, mewn lleoliadau gofal lliniarol.
Ar y pwynt hwn, roedd canser Alan yn effeithio ar ei esgyrn, ond ni adawodd i hynny ei stopio. Ar ein ffordd i'r lleoliad, fe wnaethom benderfynu mwynhau cinio moethus mewn lle Eidalaidd oedd â chynnig arbennig ymlaen. Cawsom ‘starters’, yna llond ein boliau o basta a phitsa, ychydig o win, a phwdin, cyn symud ymlaen i bencadlys y BMJ. Er gwaethaf y gwin a’r cyfrif carbohydrad uchel, fe wnaethom gyflwyno ein cyflwyniadau, o flaen panel llym o feirniaid. Fe wnaethom ddod yn ail, oedd yn dipyn o anrhydedd. A dwy flynedd yn ddiweddarach, gyda chymorth Alan, fe wnaethom ennill Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal Cleifion Coleg Brenhinol y Ffisigwyr am yr ymgyrch ymwybyddiaeth TalkCPR.
Mewn llun fel rhan o flog cyd-awdur Alan, fe welwch fod sgerbwd addysgu yr wyf yn ei ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr meddygaeth. Cynigiais ei dynnu ar gyfer y llun, a dywedodd Alan 'na, gadewch e, bydd yn cael pobl i siarad!'
Roedd Alan yn ddyn mor wych, a byddaf yn gweld ei eisiau’n fawr.”
Talodd yr Athro Donna Mead, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a Steve Ham, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth deyrnged i'r gwaith ehangach a wnaeth Alan ar gyfer y ganolfan ganser:
“Roedd Alan yn ffrind mawr i Felindre, gan roi ei amser yn hael i ni i ddarparu llais fel claf i gefnogi ein gwasanaethau.
I ffwrdd o’i driniaeth a’i dreialon clinigol, roedd Alan yn rhannu ei syniadau a’i brofiad mewn digwyddiadau Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ac yn cefnogi ein helusen codi arian, ac yn canolbwyntio bob amser ar wneud gwahaniaeth i gleifion y dyfodol.
Os ydych chi’n cerdded o amgylch y ganolfan ganser heddiw, fe welwch wyneb Alan mewn lluniau ac ar bosteri, atgof parhaus o'r parodrwydd a ddangosodd i gymryd rhan mewn popeth yn ymwneud â Felindre.
Mae'r effaith a gafodd Alan ar ein hymchwil a'n gofal yn fawr iawn. Bydd bob amser yn rhan o stori Felindre, a bydd colled fawr ar ei ôl.”
Roedd Nick Buckle, mab Alan, eisiau diolch i Felindre am y gofal a gafodd ei Dad:
“Ar ôl mwy nag 20 mlynedd yn brwydro yn erbyn ei ganser roedd Dad yn barod iawn i dderbyn ei gyflwr ac roedden ni’n ffodus i allu treulio ychydig ddyddiau’n siarad cyn iddo farw.
Roedd bob amser yn siarad yn frwdfrydig am y gofal a roesoch iddo, y gwaith y mae Felindre yn ei wneud a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Galwodd Dad yr uned treialon ei ffatri gobaith gan fod y gwaith roedden nhw'n ei wneud bob dydd yn rhoi gobaith iddo dreulio mwy o amser gyda'i wyrion a'i wyresau. Trwy ei dreialon fe helpodd rywfaint o driniaeth i ddod yn realiti ac mae hynny bellach yn rhoi gobaith i eraill - etifeddiaeth braf i Dad.
Yn bersonol, hoffwn ddweud diolch hefyd, rydym yn mynd i'w golli'n aruthrol ond yn cydnabod heb y treialon, y monitro a'r gefnogaeth gyson na fyddem wedi cael cymaint o amser ag a gawsom.
Diolch i chi gyd unwaith eto, oddi wrthyf i, y teulu ac wrth gwrs Dad.”
Yn gefnogwr gwirioneddol hyd y diwedd, mae teulu Alan yn gofyn am roddion i elusen Felindre fel rhan o’i angladd – mae cronfa goffa wedi’i sefydlu yn www.justgiving.com/page/alanbuckle.
Anfonwn ein cydymdeimlad twymgalon at y teulu gan bawb yng Nghanolfan Ganser Felindre a gafodd y fraint o ofalu am Alan a’i adnabod.
Mae Alan yn gadael etifeddiaeth o driniaeth canser well a llais cryfach y claf mewn gofal diwedd oes a fydd yn parhau i wneud gwahaniaeth am flynyddoedd i ddod.
Gorffwysa mewn hedd Alan.