Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg Iechyd Cymru i ddathlu ei ben-blwydd yn 5 oed gyda digwyddiad rhithwir

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnal digwyddiad rhithwir i ddathlu ein pen-blwydd yn bump oed ar 8 Rhagfyr.

Mae’r cofrestru ar gyfer y digwyddiad ar Eventbrite yn cau ar y 1af o Ragfyr.

Mae Technoleg Iechyd Cymru, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn asesu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau, ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.

Yn ystod y digwyddiad rhithwir, byddwn yn edrych yn ôl ar ein cyflawniadau hyd yma, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.

Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol, ac i gyfarfod ar sail un-i-un gydag ymchwilydd i siarad drwy'r broses o gyflwyno pwnc i'w arfarnu.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

I gael gwybod mwy ac i gofrestru i fynychu, ewch i dudalen Eventbrite yma.