22 Gorffennaf 2024
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn chwilio am arweinydd eithriadol fel ein Prif Weithredwr newydd. Fel Ymddiriedolaeth arbenigol, mae'r sefydliad yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau canser trydyddol i boblogaeth De-Ddwyrain Cymru ac ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru, sy'n gweithredu ar draws Cymru gyfan. Yn ogystal, mae'r Ymddiriedolaeth yn gorff lletya i ddau wasanaeth GIG cenedlaethol yng Nghymru, sef Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru.
Mae hwn yn sefydliad seiliedig ar werthoedd, sy'n cynnig cyfle cyffrous ac arloesol i wneud cyfraniad sylweddol i wasanaethau iechyd, gyda'r Ymddiriedolaeth yn ceisio penodi arweinydd ysbrydoledig, uchelgeisiol, hynod brofiadol a llwyddiannus i lunio a darparu sefydliad gofal iechyd sy'n perfformio'n dda.
Fel Prif Weithredwr, byddwch yn feddyliwr strategol gyda chraffter masnachol ac ymwybyddiaeth wleidyddol, a enillwyd ar lefel Bwrdd mewn sefydliad cymhleth, sydd yn gallu dangos arweinyddiaeth ragorol ac ychwanegu gwerth at ein Bwrdd wrth gyfrannu at ein hagenda trawsnewid uchelgeisiol. Bydd eich arweinyddiaeth yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i gyflawni rhagoriaeth glinigol barhaus, gofal cleifion rhagorol a chynaliadwyedd ariannol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol, a bydd gennych hanes o weithio mewn partneriaeth a chyflawni drwy ymgysylltu'n gryf i ddatblygu a chyflawni gweledigaeth a rennir.
Y Prif Weithredwr fydd Swyddog Atebol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gyda chyfrifoldeb llawn am ddatblygu a rheoli'r Ymddiriedolaeth yn barhaus. Mae'r Prif Weithredwr yn darparu arweinyddiaeth lefel uchaf, gweledigaeth a chyfeiriad strategol a rheolaeth ar draws pob agwedd ar weithgareddau'r Ymddiriedolaeth, a bydd yn sicrhau bod yr holl systemau penderfynu, rheoli, darparu a datblygu gofynnol ar waith. Mae'r Prif Weithredwr yn atebol am ddarparu cyngor i'r Bwrdd ar bob elfen o fusnes Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac yn benodol, ar faterion sy'n ymwneud ag uniondeb, rheoleidd-dra a gweinyddiaeth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.