Neidio i'r prif gynnwy

Staff o Felindre yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru 2024

The NHS Wales Awards 2024.

25 Mehefin 2024

Mae staff Ymddiridolaeth GIG Prifysgol Felindre yn dathlu ar ôl cyrraedd rhestr fer Gwobrau GIG Cymru eleni.

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn gwelliant ac ansawdd ar draws iechyd a gofal yng Nghymru. Yn ogystal ag arddangos y gwaith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau pobl yng Nghymru. Mae'r categorïau’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.

Rydyn ni wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Gofal Diogel GIG Cymru am wella’r gwaith o ddogfennu statws symudedd cleifion sydd â chywasgiad metastatig ar yr asgwrn cefn (MSCC): prosiect gwella ansawdd mewn canolfan ganser ranbarthol yn y DU.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghaerdydd, ddydd Iau 24 Hydref 2024. Ar ôl derbyn nifer aruthrol o geisiadau ysbrydoledig eleni, mae’r panel beirniadu sy’n cynnwys arbenigwyr o bob rhan o GIG Cymru, y sector cyhoeddus a chyrff proffesiynol wedi’i chael hi’n hynod anodd dewis 36 i fynd ymlaen i’r rownd derfynol. Yn y cam nesaf, bydd y beirniaid yn cwrdd â phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn rhithwir i gael rhagor o wybodaeth am eu prosiectau gwella.

I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i gwobraugig.cymru.