5 Mai 2023
Heddiw, rydyn ni’n lansio Lleisiau Felindre – sef modd i gleifion, y presennol a’r gorffennol, a gofalwyr ac aelodau o'r gymuned ehangach gadw mewn cysylltiad â ni, dylanwadu ar ein gwaith a gweithio gyda ni ym mha bynnag ffordd sy'n addas iddyn nhw.
Bydd Lleisiau Felindre’n cynnwys amrywiaeth eang o gyfleoedd i ymwneud â’r ganolfan, gan gynnwys sefydlu paneli ymwneud.
Gan adeiladu ar y Rhaglen Ymwneud Cymunedol barhaus, yn rhan o Ganolfan Ganser Felindre newydd, ac yn rhan o strategaeth newydd yr Ymddiriedolaeth ar gyfer ymwneud â chleifion, bydd Lleisiau Felindre’n rhoi cyfle i unrhyw un sydd wedi cael profiad o ofal yng Nghanolfan Ganser Felindre neu drwy’r ganolfan – boed hynny fel claf, gofalwr, anwylyd, aelod o'r gymuned leol neu gefnogwr – gadw mewn cysylltiad â ni, dylanwadu ar ein gwaith yn y dyfodol a lleisio eich barn ym mha bynnag ffordd sy'n gyfleus i chi.
Bydd y rheiny sy’n ymuno â Lleisiau Felindre’n cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymwneud, o gadw mewn cysylltiad a chael y diweddaraf ar feysydd o ddiddordeb, i ddod yn rhan o grwpiau ffocws, i wirfoddoli neu i ddod yn aelod o’r Grŵp Ymwneud a Chynnwys Cleifion neu’r Panel Cymunedol. Does dim rhaid ymrwymo cyfran benodol o’ch amser a gall aelodau o’r panel gyfrannu cymaint neu cyn lleied ag yr hoffent.
Wrth sôn am lansiad Lleisiau Felindre, meddai Lisa Miller, Pennaeth Ymwneud â Chleifion yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i Felindre wrth i ni agor y broses gofrestru i’r rheiny sydd â diddordeb mewn ymuno â’n paneli cleifion a chymunedol.
“Rydym am glywed gan amrywiaeth eang o leisiau sy’n dod o lawer o gefndiroedd gwahanol, er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl sydd wedi cael triniaeth a gofal gennym yn llywio ein cynllun gwasanaeth yn y dyfodol. Bydd llawer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ac mae croeso i bawb roi eu barn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n frwd dros wella gofal canser yn ne-ddwyrain Cymru i ymuno â’n panel cleifion ac i leisio eu barn”.
Wrth i’r gwaith o ddatblygu Canolfan Ganser Felindre newydd barhau, dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser Felindre newydd, David Powell: “Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddatblygu ar ein gwaith ymwneud cymunedol i sicrhau bod ein holl gymunedau lleol a rhanddeiliaid ehangach wrth galon ein gwaith.
"Mae lansio'r broses gofrestru panel yn gam cadarnhaol tuag at gynyddu nifer y rhanddeiliaid y gallwn eu cyrraedd a'u cynnwys wrth i ni wella'r gofal o'r radd flaenaf rydym yn ei ddarparu ac wrth i ni ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre."
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymwneud â’r rheiny heb gyfle’n aml i leisio eu barn, a byddwn ni’n gweithio’n agos gyda sefydliadau o’r trydydd sector i sicrhau bod ein prosesau’n diwallu anghenion pawb.
Gall pobl ymrwymo cymaint neu cyn lleied o amser i gyd-fynd â’u hamgylchiadau, a bydd cyfleoedd i ymwneud gartref, wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Mae Sue Youngman yn rhan weithredol o Grŵp Cyswllt Cleifion Felindre ers 10 mlynedd a mwy. Meddai hi: "Mae'r cyfle i ddefnyddio fy mhrofiadau go iawn i lywio gwasanaethau'r dyfodol yn werthfawr. Mae’r staff yn barod i dderbyn fy sylwadau ac mae’n braf iawn y bydd y panel ymwneud newydd yn cynnig mwy o gyfleoedd fyth i ddefnyddwyr y gwasanaeth leisio eu barn.”
Cofrestrwch heddiw i leisio’ch barn a bod wrth galon ein gwaith!
Sut mae cofrestru?
I ymuno â Lleisiau Felindre, mae angen ambell i fanylyn gennych yma.