14 June 2024
Mae astudiaeth arloesol dan gyd-arweiniad Dr Magda Meissner, sy'n Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre, wedi ennill gwobr genedlaethol.
Enillodd QuicDNA, dan arweiniad clinigol Dr Meissner (ar y dde) a chyd-ymchwiliad yr Athro Richard Adams a Dr Paul Shaw, sy'n Oncolegyddion Clinigol Ymgynghorol yn y Ganolfan Ganser, y wobr yng Ngwobrau Canser Moondance neithiwr yn y categori ‘Arloesi a Gwella: Gweithio gyda'r diwydiant a’r trydydd sector'.
Mae QuicDNA yn astudiaeth sy'n ceisio trawsnewid y ffordd o roi diagnosis o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru, gyda’r nod o leihau’r amser y mae’n ei gymryd i roi'r diagnosis a chynnig triniaethau gwell gyda thechneg arloesol, newydd o gynnal biopsi hylif gan ddefnyddio prawf gwaed syml.
Mae’r wobr hon yn cydnabod rolau amrywiol y diwydiant a phartneriaid yn y trydydd sector er mwyn sicrhau canlyniadau canser gwell i Gymru – boed hynny ym maes gwyddorau bywyd, mewn darpariaeth arbenigol, cymorth i gleifion a gofal lliniarol, neu’r tu hwnt i'r rhain.
Meddai Dr Meissner:
"Rwy'n hynod o ddiolchgar ac yn llawn syndod fod Prosiect QuicDNA wedi ennill Gwobr Moondance am weithio gyda'r diwydiant a’r trydydd sector. Mae'n anrhydedd i mi fod QuicDNA wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Mae’r prosiect hwn yn dangos sut gall partneriaid o sectorau amrywiol, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y trydydd sector, y GIG a chleifion, gydweithio’n effeithiol. Nod QuicDNA yw cael effaith gadarnhaol ac ystyrlon ar ddiagnosis a thriniaeth cleifion sydd â chanser yr ysgyfaint, gan sicrhau eu bod yn cael triniaethau cyflymach a mwy effeithiol.”
Mae hi hefyd wedi bod yn destun ymdrech anhygoel i godi arian gan y claf, Craig Maxwell, ar ôl iddo gael diagnosis o ganser terfynol yr ysgyfaint yn 2022.
Trwy nifer o weithgareddau codi arian, gan gynnwys taith gerdded a beicio ddiweddar ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gyfan, mae Maxwell (isod gyda’i deulu) wedi codi bron £1 miliwn ar gyfer Cronfa Genomeg y Teulu Maxwell, y mae Elusen Canser Felindre yn bartner ynddi.
Canser yr ysgyfaint yw'r pedwerydd math o ganser mwyaf cyffredin a phrif achos marwolaethau o ganser yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rhoddir diagnosis trwy fiopsi o'r feinwe, lle mae DNA yn cael ei dynnu o feinwe sy'n cael ei chymryd o safle'r tiwmor yn yr ysgyfaint.