Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect QuicDNA ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr Moondance

Dr Magda Meissner is on the left and Craig Maxwell is on the right.

3 Mai 2024

Mae astudiaeth arloesol dan arweiniad Dr Magda Meissner, sy'n Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre, a Sian Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, wedi cael ei henwebu ar gyfer dwy wobr genedlaethol.

Mae tîm QuicDNA, sef prosiect sy'n ceisio trawsnewid y ffordd o roi diagnosis i gleifion o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru, wedi cael dau enwebiad ar gyfer Gwobrau Canser Moondance eleni yn y categorïau 'Cyrhaeddiad' ac 'Arloesi a Gwella'.

Nod yr astudiaeth yw lleihau'r amser mae'n ei gymryd i wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint a gwella mynediad at driniaethau canser gwell gyda thechneg biopsi hylif arloesol newydd a fydd yn defnyddio prawf gwaed syml.

Canser yr ysgyfaint yw'r pedwerydd math mwyaf cyffredin o ganser a phrif achos marwolaeth o ganser yng Nghymru.

Meddai Magda Meissner, y Prif Ymchwilydd ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol Felindre:

“Rwy'n hynod o ddiolchgar fod Prosiect QuicDNA wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobrau Canser Moondance eleni yn y categorïau 'Cyrhaeddiad' ac 'Arloesi a Gwella'. Mae’r prosiect hwn yn dangos sut mae partneriaid o lawer o wahanol sectorau, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y GIG, y trydydd sector, a chleifion, yn gallu cydweithio’n effeithiol. Nod QuicDNA yw cael effaith gadarnhaol ac ystyrlon ar ddiagnosis a thriniaeth cleifion gyda chanser yr ysgyfaint, gan greu mynediad cyflymach at driniaethau yn y GIG yn y dyfodol.”

Yn ogystal â hynny, mae'r prosiect wedi bod yn destun ymdrech anhygoel i godi arian gan y claf, Craig Maxwell, ar ôl iddo gael diagnosis yn 2022 o ganser yr ysgyfaint a bod hwnnw'n angheuol.

Trwy nifer o weithgareddau codi arian, gan gynnwys taith gerdded a beicio yn ddiweddar ar hyd holl Lwybr Arfordir Cymru, mae Maxwell wedi codi bron £1 miliwn ar gyfer Cronfa Genomeg Teulu Maxwell, y mae Elusen Canser Felindre yn bartner iddi.

Meddai Sian Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan, ynglŷn ag ymdrechion Craig:

“Yn ystod 33 mlynedd o weithio mewn labordy genomeg, dydw i ddim erioed wedi cwrdd â chlaf mwy ysbrydoledig dros y gwasanaethau canser genomig rydyn ni'n eu darparu yn GIG Cymru na Craig. Mae Craig yn ein hatgoffa nid yn unig o bwysigrwydd ein gwaith pob dydd ym maes genomeg, ond hefyd y gwahaniaeth gwirioneddol a wnawn i fywyd cleifion. Os bydd yr astudiaeth yn llwyddiannus, mae'n bosib mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i ddefnyddio biopsi hylif fel mater o drefn ar gyfer pob claf rydyn ni'n amau bod canser yr ysgyfaint arnynt a bod y canser hwnnw'n angheuol.”

Ar hyn o bryd, mae cleifion yn cael diagnosis trwy fiopsi o'r feinwe, lle mae DNA yn cael ei dynnu o feinwe sy'n cael ei chymryd o safle'r tiwmor yn yr ysgyfaint.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael ei henwebu ar gyfer sawl gwobr yng Ngwobrau Canser Moondance eleni.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrwyo arbennig nos Iau 13 Mehefin, ac mae rhestr lawn o’r enwebeion i’w gweld ar wefan Moondance Cancer Cymru.

I gael gwybod mwy, ewch i wefan Cronfa Genomeg Teulu Maxwell. Cyfrannwch yma neu rhowch £10 trwy decstio 'WALK24' i 70191.