Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Prif Swyddog Gweithredu parhaol

28 Chwefror 2025

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi penodi Anne Carey yn Brif Swyddog Gweithredu parhaol yr Ymddiriedolaeth.

Roedd Anne yn Brif Swyddog Gweithredu Dros Dro ers mis Gorffennaf 2024 ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gweithio’n ddiflino gyda Gwasanaeth Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaethau hynny.

Yn dilyn proses recriwtio hynod gystadleuol a wnaeth atynnu maes cadarn o ymgeiswyr, penderfynwyd penodi Anne ar gyfer ein swydd barhaol.

Cyn hynny, roedd yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredu yn Ashford & St Peter’s Hospital yn Surrey, ac roedd ganddi'r un rôl yn Princess Alexandra Hospital am dair blynedd a mwy.

A hithau wedi'i hyfforddi'n broffesiynol fel Gwyddonydd Biofeddygol mewn Haematoleg a Thrallwyso Gwaed, mae Anne hefyd wedi arwain astudiaeth genedlaethol sy'n edrych ar garfan o enedigaethau yn y Ganolfan Gwyddorau Iechyd Academaidd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, roedd yn gweithio am bum mlynedd yn y Royal Marsden ac mae wedi arwain ar ddatblygiad Evelina Children’s Hospital fel ei Rheolwr Cyffredinol.

Meddai Anne: "Rwy'n hynod falch o gael fy mhenodi i'r rôl barhaol. Bydd yn fraint fawr parhau i arwain timau Felindre ac edrychaf ymlaen at yr effaith y gallwn ei chael gyda'n gilydd ar ran ein rhoddwyr, ein cleifion, ein gofalwyr a'n cydweithwyr."

Edrychwn ymlaen nawr at weithio gydag Anne yn ei swydd barhaol yn yr Ymddiriedolaeth.