Neidio i'r prif gynnwy

Penodi nyrsys ymgynghorol cyntaf erioed yr Ymddiriedolaeth

Pum cydweithiwr o

1 Awst 2024

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi penodi nyrsys ymgynghorol am y tro cyntaf erioed.

Mae'r rolau newydd wedi eu creu'n benodol ym meysydd oncoleg acíwt a therapi gwrth-ganser systemig (SACT) yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Mae Ceri Stubbs wedi ei phenodi'n Nyrs Ymgynghorol newydd yr Ymddiriedolaeth mewn Oncoleg Acíwt a Dr Rosie Roberts yn Ymgynghorydd Nyrsio newydd ar gyfer SACT. Mae Ceri wedi gweithio yng Nghanolfan Ganser Felindre ers 2007 a Rosie ers 1990.

Meddai Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd:

“Un o’n huchelgeisiau yw tyfu fel rhan o’n gweithlu aml-broffesiynol sy’n cynllunio ymarfer uwch ac ymarfer ymgynghorol ar draws holl feysydd yr Ymddiriedolaeth. Mae ymarfer ymgynghorol wir yn galluogi pobl sydd ar frig eu harbenigedd i weithio ar y lefel uchaf.

“Yn y gwasanaethau gwaed a chanser, bydd y rolau hyn yn gwella’n sylweddol ein gallu i barhau i ddarparu’r gofal a’r gwasanaethau gorau posib i’n rhoddwyr, i'n cleifion ac i boblogaeth Cymru.

“Rydw i mor falch o Ceri a Rosie am eu cyflawniadau ac rwy’n siŵr y byddan nhw'n parhau i ddatblygu eu hymarfer clinigol yn y rolau hyn a bod yn hynod o lwyddiannus.”

Mae nyrsys ymgynghorol yn nyrsys cymwysedig sy'n meddu ar gyfoeth o brofiad, amrywiaeth gynhwysfawr o alluoedd ac arbenigedd mewn ymarfer clinigol, addysg, ymchwil, strategaeth ac arweinyddiaeth. Bydd nyrsys yn cyrraedd y lefel hon os ydynt wedi symud ymlaen o lefel uwch yn eu maes gan ennill profiad perthnasol sylweddol.

Ymhlith eu cyfrifoldebau mae darparu cyngor proffesiynol arbenigol i gleifion a chydweithwyr, datblygu neu ailgynllunio’r gwasanaeth yn eu maes arbenigol, arwain ar ymchwil, arloesi a thrawsnewid, a darparu addysg a hyfforddiant arbenigol i staff a myfyrwyr eraill.

Rhaid bod modd iddynt dangos cymhwysedd a phrofiad yn y pum piler o ymarfer clinigol fel y'u hamlinellir gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac mae modd i'r rôl hon fodoli yn yr ystod lawn o yrfaoedd i nyrsys cofrestredig, nid yn unig y rhai sy'n ymwneud ag oncoleg sy'n dod o dan gwmpas Canolfan Ganser Felindre.

Meddai Viv Cooper, Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad Cleifion a Gofal Integredig:

“Mae hwn yn ddatblygiad mor gyffrous ar gyfer nyrsio a’n gwasanaethau. Mae gan y ddwy gydweithiwr lawer iawn o brofiad gwerthfawr a hygrededd clinigol, ac maen nhw bob amser yn rhoi cleifion wrth galon popeth maen nhw'n ei wneud.

“Mae'r tîm amlddisgyblaethol cyfan wedi eu llongyfarch ac wedi rhoi llawer o gefnogaeth iddyn nhw, ac mae hynny'n bwysig gan ein bod ni'n cydnabod ein bod yn rhan o dîm sydd lawer yn ehangach.

“Rwy’n falch o weithio gyda Ceri a Rosie ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld nhw'n datblygu yn eu rolau newydd wrth baratoi’r ffordd ar gyfer rhagor o rolau nyrsys ymgynghorol yn y dyfodol.”