Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Lindsay Foyster wedi’i phenodi’n Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Ymunodd Lindsay â Bwrdd yr Ymddiriedolaeth fel aelod annibynnol dros amrywiaeth a chynhwysiant am dymor o bedair blynedd ym mis Mai 2024, gan ddod â chyfoeth o brofiad strategol gyda hi o'r trydydd sector a’r sector cyhoeddus.
Diben Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yw goruchwylio'r system lywodraethu a rheolaeth, gan gynnwys rheoli risg. Mae hyn yn golygu bod y bwrdd yn gwneud penderfyniadau ar sut mae pethau'n gweithtedu a sut i gadw staff a chleifion yn ddiogel. Maent yn gwneud hynny trwy gyfarfod mewn llawer o wahanol grwpiau sy'n canolbwyntio ar feysydd gwahanol o weithrediadau'r ymddiriedolaeth, a elwir yn 'bwyllgorau'.
[DYFYNIAD]
A hithau'n Aelod Lleyg o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae Lindsay hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru rhwng 2020-2023 a bu’n aelod anweithredol o’r Bwrdd yno ers 2015.
Mae Lindsay wedi cael gyrfa ddisglair yn y sector elusennol yng Nghymru, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Mind Cymru rhwng 1995 a 2014, ar ôl dal swyddi ym maes datblygu iechyd meddwl a gwaith cymorth.
Bu Lindsay hefyd yn llywodraethwr ysgol am nifer o flynyddoedd gan gynnwys fel cadeirydd ac is-gadeirydd, yn ogystal â gwasanaethu am gyfnod byr fel cynghorydd cymuned lleol. Hi oedd yr Arweinydd Amrywiaeth Corfforaethol ar gyfer Mind a Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Bwrdd Anweithredol yn Archwilio Cymru.
Yn ei hamser sbâr, mae Lindsay’n gwirfoddoli fel un o’r ymatebwyr lles cymunedol cyntaf gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer ei chymunedau lleol yn ardal Caerffili a Chasnewydd.