23 Ebrill 2024
Mae pedwar aelod o staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael eu hanrhydeddu ag anrhydedd mawreddog.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dyfarnu Cymrodoriaeth i ddau aelod o Ganolfan Ganser Felindre: yr Athro Mark Taubert, sy’n Gyfarwyddwr Clinigol ar Feddygaeth Liniarol, a Dr Seema Arif, sy’n Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol.
Hefyd yn Gymrodyr newydd o’r Ymddiriedolaeth mae’r Athro Peter Groves, sy’n Gadeirydd ar Dechnoleg Iechyd Cymru (un o’r sefydliadau a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth), a’r Athro Andrew Westwell, sy’n Aelod Annibynnol o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.
Mae gan y Gymdeithas oddeutu 700 o Gymrodyr etholedig, sy’n cynrychioli rhagoriaeth yn y gwyddorau, y dyniaethau, y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a meysydd eraill. Mae pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fyd dysgu ac mae ganddynt gysylltiad amlwg â Chymru.
Meddai'r Athro Taubert, un o garfan yr Ymddiriedolaeth o Gymrodyr newydd:
“Bu’n fraint wirioneddol cael fy ethol i’r gymdeithas fawreddog hon am fy nghyraeddiadau academaidd ac addysgu.
“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru hefyd yn darparu llwyfan cyffrous ar gyfer hyrwyddo’r agweddau ar ofal lliniarol a chynllunio gofal yn y dyfodol y mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys.”
Maent yn ymuno â Chadeirydd presennol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yr Athro Donna Mead OBE, a’r Athro y Farwnes Ilora Finlay, sy’n gyn-ymgynghorydd gofal lliniarol yn y Ganolfan Ganser. Cafodd y ddwy eu hethol yn Gymrodyr yn 2020 a 2010.
Meddai’r Athro Donna Mead OBE:
"Rydym yn hynod o falch fod pedwar o’n staff wedi’u hethol i academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau.
“Mae’r broses ethol yn un hynod drwyadl ac mae pob Cymrawd newydd nid yn unig wedi cyrraedd rhagoriaeth mewn cyflawniad ac ymarfer academaidd ac ysgolheigaidd ond hefyd am eu cyfraniad at fywyd yng Nghymru. Ar ran yr Ymddiriedolaeth, hoffwn longyfarch y pedwar.”
Bydd y Cymrodyr newydd yn cael eu derbyn yn ffurfiol gan y Gymdeithas yn ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Nghaerdydd ar 22 Mai.