22 Ionawr 2026
Mae adolygiad cyflym o dystiolaeth a gynhaliwyd gan HTW ar gost twristiaeth feddygol i'r GIG wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn BMJ Open.
Gweithiodd ymchwilwyr HTW mewn cydweithrediad â Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gynnal adolygiad cyflym o'r data sydd ar gael ar gostau a chymhlethdodau i'r GIG oherwydd twristiaeth feddygol. Roedd yr adolygiad yn cynnwys 37 o astudiaethau a oedd yn cynnwys tystiolaeth a oedd ar gael tan fis Rhagfyr 2024.
Yn ôl y papur a adolygwyd gan gymheiriaid a gyhoeddwyd yn BMJ Open, roedd y costau i'r GIG oherwydd twristiaeth feddygol yn amrywio o £1,058 i £19,549 fesul claf, ac roedd y costau uchaf yn gysylltiedig gyda gorfod aros yn hirach yn yr ysbyty a thriniaethau llawfeddygol.
Ymhlith y cymhlethdodau mwyaf cyffredin o ganlyniad i lawdriniaethau colli pwysau oedd poen yn yr abdomen, chwydu, anallu i lyncu a diffyg maeth, gyda gollyngiadau gastrig yn gyffredin. Yn y cyfamser, roedd llawdriniaethau cosmetig yn aml yn arwain at heintiau ac ailagor clwyfau llawfeddygol. Ni adroddwyd unrhyw farwolaethau, ond roedd angen triniaeth gymhleth ar lawer o gleifion, a oedd yn cynnwys arosiadau hir yn yr ysbyty a sawl ymyriad llawfeddygol.
Fodd bynnag, rhybuddiodd yr ymchwilwyr hefyd ei bod yn amhosibl deall yn llawn y risgiau o ddewis cael llawdriniaeth dramor, gan fod data ar y defnydd, yr amlder a'r canlyniadau i'r GIG yn anghyflawn ac yn ddi-drefn. Fe wnaethant egluro bod sicrwydd y dystiolaeth a gafwyd o'r rhan fwyaf o'r astudiaethau yn isel, gan fod llawer o'r astudiaethau wedi cael eu gwneud ar ôl i’r driniaeth gael ei gwneud ac ar ôl i’r GIG gael ei effeithio. Cafwyd data o nodiadau meddygol, a allai fod yn anghyflawn neu wedi'u codio'n anghywir. Yn ogystal, roedd ychydig o'r astudiaethau yn cynnwys gwybodaeth am fanylion demograffig neu hanes meddygol blaenorol ac ni roddwyd gwybod am bob canlyniad fel rhan o’r astudiaethau. Fe wnaethon nhw ychwanegu bod hyn yn awgrymu y gallai'r gost a'r cymhlethdodau sy'n deillio o dwristiaeth feddygol gael eu tanamcangyfrif.
Dywedodd Dr Clare England, Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd, a gyd-ysgrifennodd yr adroddiad:
"Dydyn ni ddim yn gwybod effaith lawn twristiaeth feddygol. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'r dystiolaeth ei bod yn rhoi baich sylweddol ar y GIG oherwydd yr angen i drin cymhlethdodau fel heintiau, clwyfau sy'n ailagor neu anallu i lyncu, y gall llawer ohonynt olygu bod angen triniaeth gymhleth, llawdriniaeth adolygol ac arosiadau hir yn yr ysbyty.
"Dylai aelodau'r cyhoedd sy'n ystyried mynd dramor i gael triniaeth gael gwybod am y risgiau sy'n gysylltiedig â hyn, ac mae ein papur yn pwysleisio'r angen am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i dynnu sylw at beryglon posibl twristiaeth feddygol."
Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru:
"Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal a thechnoleg i gefnogi’r ddarpariaeth iechyd a gofal yng Nghymru.
"Fel Partner Cydweithredol Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod tystiolaeth gadarn ar gael i gefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch polisi iechyd a gofal cymdeithasol."
At ei gilydd, mae canfyddiadau'r adolygiad cyflym yn pwysleisio'r baich sylweddol ar y GIG sydd yn cael ei achosi gan gymhlethdodau oherwydd all-dwristiaeth feddygol, gan gynnwys costau ariannol a'r straen ar adnoddau'r GIG.
Mae'r papur yn dod i'r casgliad bod angen ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i hysbysu aelodau'r cyhoedd sy'n ystyried mynd dramor i gael llawdriniaeth am y potensial ar gyfer cymhlethdodau.