Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau yn eich profion gwaed yn Felindre

28 Mai 2025

Os yw eich profion gwaed yn cael eu cymryd yng Nghanolfan Canser Felindre yn rhan o'ch triniaeth cemotherapi, bydd newid bach o ran pryd bydd hyn yn digwydd. Bydd hyn yn effeithio ar rai o'n cleifion.

 

Ar bwy fydd hyn yn effeithio?

Bydd y newid hwn yn effeithio ar gleifion sydd:

  • yn cael profion gwaed cyn Diwrnod 8 a Diwrnod 15 o'u cylch triniaeth

ac

  • yn cael profion gwaed yng Nghanolfan Canser Felindre.

 

Beth sy'n newid?

Ar hyn o bryd, mae profion gwaed yn cael eu cynnal ar fore Diwrnod 7 a Diwrnod 14 o'ch cylch triniaeth, a byddwch yn cael triniaeth ar Ddiwrnod 8 a Diwrnod 15.

Yn lle hynny, o 2 Mehefin 2025 ymlaen, bydd pob apwyntiad yn y dyfodol ar gyfer profion gwaed yn cael ei trefnu ar gyfer prynhawn Diwrnod 6 a Diwrnod 13.

 

Pam mae hyn yn newid?

Bydd y newid hwn yn ein helpu:

  • I gael eich canlyniadau gwaed yn ôl yn gynt.
  • I roi mwy o amser i'n tîm fferyllfa baratoi eich triniaeth yn ddiogel.
  • I ganiatáu mwy o amser i'ch tîm clinigol adolygu eich canlyniadau a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
  • I leihau amseroedd aros yn y clinigau boreol.

 

Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn wrth fynd i'ch apwyntiad ar yr amser sy'n cael ei nodi yn eich llythyr.