21 Ionawr 2025
Yn ddiweddar, croesawon ni fyfyrwyr fferylliaeth o Brifysgol Caerdydd i weld safle ein Canolfan Ganser Felindre newydd (CGFn). Dangoswyd y safle adeiladu i'r myfyrwyr, ac yna cafwyd cyflwyniad a thrafodaeth gyda chydweithwyr o'n hadran fferylliaeth.
Trefnwyd yr ymweliad gan yr Athro Andrew Westwell, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd ac Aelod Annibynnol o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Dywedodd yr Athro Westwell: “Roedd yn fraint croesawu rhai myfyrwyr fferylliaeth i safle ein Canolfan Ganser Felindre newydd. Mae ymweliadau fel hyn yn amhrisiadwy wrth helpu myfyrwyr i ddeall sut mae gwasanaethau canser modern yn cael eu cynllunio a'u darparu, a'r rôl hanfodol sydd gan fferylliaeth mewn gofal cleifion.
“Drwy weld maint y datblygiad a siarad â’n cydweithwyr fferylliaeth, mae myfyrwyr yn cael cipolwg ar sut mae arloesedd, cydweithio a thechnoleg yn dod at ei gilydd i gefnogi gofal diogel, effeithiol a thosturiol. Rydym yn falch o gefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol fferylliaeth ac i rannu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal canser yng Nghymru.”
Clywodd myfyrwyr ar yr ymweliad yn uniongyrchol hefyd gan gydweithwyr yn adran fferylliaeth Felindre, a eglurodd y rôl sydd gan yr adran wrth drin cleifion a sut mae eu staff yn rhan o'r dyluniad a'r datblygiad yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre.
Bydd yr adran fferylliaeth yng CGFn yn cynnwys robot fferylliaeth a dwy ystafell addysg i gleifion. Mae system niwmatig hefyd yn cysylltu'r fferyllfa ag adrannau eraill er mwyn dosbarthu eitemau'n gyflym ac yn ddiogel.
Bydd ein CGFn, sydd i fod i agor flwyddyn nesaf, yn darparu triniaeth ganser o'r radd flaenaf, gallu diagnostig gwell a mynediad gwell at ymchwil ac arloesedd ar gyfer pobl Cymru.
Mae ein CGFn wedi'i chynllunio o amgylch anghenion ein cleifion o'r diwrnod cyntaf. Gyda chynllun greddfol, ardaloedd triniaeth o'r radd flaenaf a byncer ymchwil radiotherapi pwrpasol i ehangu mynediad at dreialon clinigol, bydd ein cartref newydd yn helpu i drawsnewid y gofal y gallwn ei ddarparu.
Bydd ein cartref newydd, sydd i fod i agor yng Ngwanwyn 2027, ddwywaith maint ein safle presennol ac mae'n adlewyrchu ein huchelgais nid yn unig i ddiwallu'r galw cynyddol, ond i lunio dyfodol gofal canser yng Nghymru.