1 Awst 2023
Mae'r Tîm Seicoleg Glinigol yn Felindre a Maggie's yn cynnig cyfres o sesiynau Mannau Siarad yn Maggie's, a bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno gan Caroline Coffey, sy'n Ymgynghorydd Seicoleg Glinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre, a Jo Soldan, sy'n Seicolegydd Clinigol yng Nghanolfan Maggie's.
Bydd hwn yn gyfle i gwrdd â chleifion eraill a chael sgyrsiau cyfrinachol am agweddau anodd ar ganser a'r driniaeth ar ei gyfer.
Bydd modd i chi gwrdd â chleifion eraill mewn man anffurfiol dros baned i rannu syniadau a myfyrio ar y testunau canlynol:
Ofni canser yn y dyfodol – Sut mae pobl yn byw gyda hynny? (24 Awst, 10-11am)
Dwi wedi cael digon o driniaeth am ganser – Sut mae pobl yn penderfynu rhoi'r gorau iddi? (21 Medi, 10-11am)
Y baich o aros am ganlyniadau – Sut mae pobl yn byw gyda hwnnw? (26 Hydref, 10-11am)
Effaith canser ar eich gallu i fod yn agos at bobl – Sut mae pobl yn byw gyda honno? (23 Tachwedd, 10-11am)
Os hoffech chi ddod, dewch draw i unrhyw un neu i bob un o'r sesiynau uchod. Does dim angen atgyfeiriad arnoch a does rhaid i chi ddod i bob sesiwn nac unrhyw sesiynau eraill yn y dyfodol.
Os hoffech chi roi gwybod i'r tîm eich bod yn bwriadu dod, neu os oes unrhyw gwestiynau gennych, ffoniwch Maggie's ar 02922 408024 .