Neidio i'r prif gynnwy

Mam yn annog mwy o bobl i ddod yn rhoddwyr gwaed sy'n achub bywyd ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed

A small baby is receiving a blood transfusion.

7 Mehefin 2024

Mae mam i dri o blant yn eiriol dros fwy o bobl i roi gwaed, ar ôl i'w mab heb ei eni fod mewn angen dirfawr o drallwysiad gwaed i achub ei fywyd. Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed (10-16 Mehefin 2024), mae Rebecca Davies o Ddinas Powys yn tynnu sylw at yr angen parhaus am waed; hebddo, ni fyddai ei mab yma heddiw.

Cafodd Rebecca a'i gŵr Geraint wybod yn ystod apwyntiad arferol bod cymhlethdodau yn y beichiogrwydd oherwydd y gwahanol fathau o waed rhwng Rebecca a'i babi heb ei eni, Nate. Dechreuodd gwaed Rebecca gynhyrchu gwrthgyrff i ymladd gwaed Nate. Er ei fod yn brin, gall y clefyd fod yn beryglus i'r babi.

Bu'n rhaid i Nate dderbyn trallwysiad gwaed tra'n dal yn y groth yn 28 wythnos oed. Bedair wythnos yn ddiweddarach, cafodd Nate ei eni cyn ei amser er mwyn cael trallwysiad gwaed achub bywyd pellach yn un diwrnod oed yn unig, tra yn yr Uned Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Diolch byth, fe wnaeth Nate wella’n llwyr, ac roedd adref bum wythnos yn ddiweddarach. Ac yntau bellach yn saith oed, mae’n fachgen ifanc iach, heb unrhyw effeithiau hirdymor o’r afiechyd, ac mae’n mwynhau bywyd gyda’i rieni a’i frawd a’i chwaer, Kieran ac Evie.

Wrth son am adferiad Nate, dywedodd Rebecca:

“Heb y trallwysiadau gwaed hyn, ni fyddai Nate yma gyda ni heddiw. Yn syml, rydym yn deulu o bump, nid pedwar, diolch i haelioni rhoddwyr gwaed. Mae’r weithred syml honno o garedigrwydd wedi rhoi’r cyfle i ni fod yn deulu roedden ni wastad wedi breuddwydio amdano, ac i Nate fyw bywyd hir a hapus.

“I bwy bynnag yw’r rhoddwyr y derbyniodd Nate y gwaed ganddynt, ni allwn ddiolch digon ichi.”

"Buaswn bob amser yn annog y rhai sy’n gymwys i roi gwaed i wneud hynny. Rydych chi nid yn unig yn helpu'r person sy'n derbyn y rhodd, ond eu holl anwyliaid hefyd. Rydyn ni gyd mor ddiolchgar.”

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru:

“Bob dydd, mae angen tua 350 o roddion i helpu cleifion mewn ysbytai ar draws Cymru, gan gynnwys Ysbyty Prifysgol Cymru, lle cafodd Nate ei drallwysiadau.

“Fel Gwasanaeth, rydyn ni’n dibynnu ar haelioni pobl sy’n byw yng Nghymru i ddarparu rhoddion hanfodol i gleifion, ac mae tua 5,000 o roddion gwaed bob blwyddyn yn cael eu defnyddio oherwydd genedigaeth.

“Trwy roi awr yn unig o’ch amser, mae gennych chi gyfle unigryw i gefnogi cleifion fel Nate sy’n dibynnu ar drallwysiadau i oroesi.

“Mae’r Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed yn gyfle i wasanaethau gwaed ar draws y DU i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd achub bywyd rhoi gwaed, ac i annog y rhai nad ydynt erioed wedi rhoi gwaed i roi cynnig arni, neu os nad yw hynny i chi, dim ond i siarad am roi gwaed gyda ffrindiau ac anwyliaid.

“Mae rhannu straeon fel un Rebecca a Nate yn tynnu sylw at werth go iawn un rhodd o waed yn unig a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud, nid yn unig i’r person sy’n derbyn y trallwysiad, ond i’w deulu hefyd. Diolch i’n rhoddwyr, gall Rebecca a Geraint edrych ymlaen at rannu llawer mwy o gerrig milltir arbennig gyda Nate, Keiran ac Evie gyda’i gilydd fel teulu.”


Gwnewch apwyntiad i roi rhodd a allai achub bywyd drwy fynd i welshblood.org.uk, neu ffoniwch 0800 252 266 heddiw.