14 Chwefror 2024
Mae prentisiaethau yn ffordd fwyfwy effeithiol i sefydliadau ddatblygu gweithlu medrus a llawn cymhelliant, a hynny wrth alluogi gweithwyr dawnus i gyrraedd eu potensial trwy ennill profiad a chymwysterau.
Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae ein sefydliad a’n gweithwyr yn elwa o brentisiaethau. Mae Gradd-brentisiaethau Digidol yn helpu i uwchsgilio staff presennol, gan wella eu gwybodaeth i ddod â safbwyntiau newydd a sgiliau sy’n barod ar gyfer y dyfodol i’r gweithle.
Mae Rhaglen y Radd-brentisiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn hynod lwyddiannus. Trwy bartneriaethau gyda sefydliadau fel Felindre, mae'r rhaglen yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel sydd wedi'i ariannu'n llawn i unrhyw un dros 18 oed. Mae'r cyfuniad o ddysgu academaidd a dysgu yn y gweithle yn creu llwybr ar gyfer gyrfa werth chweil.
Mae Mark Williams yn Uwch Arbenigwr Digidol yn Felindre ac yn fyfyriwr Seiberddiogelwch a Rhwydweithio yn ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Trwy gynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, mae Mark wedi llwyddo i weithio oriau llawn amser a neilltuo diwrnod bob wythnos i fynd i'r brifysgol. Meddai ef:
“Rydw i wedi magu gwybodaeth am heriau digidol y byd go iawn, ac mae hyn wedi fy helpu i ddefnyddio beth rydw i wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth yn fy rôl yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae'r defnydd ymarferol hwn o wybodaeth nid yn unig wedi cyflymu fy addysg ond hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol at weithrediadau digidol y Ganolfan, sydd felly'n dangos manteision y math hwn o addysg gydweithredol.
“Alla i ddim pwysleisio cymaint mae’r cynllun hwn yn ei gynnig i unigolion sy’n ceisio datblygu eu gyrfa wrth barhau â’u haddysg. Mae’r rhaglen hon yn llwyfan delfrydol.”
Mae’r cymorth ariannol a gynigir drwy gynlluniau prentisiaeth yn helpu i oresgyn rhwystrau i addysg. Maent yn galluogi prentisiaid i gael cyflog llawn amser a chael eu ffioedd prifysgol wedi’u talu, gan leddfu’r baich economaidd sy’n aml yn gysylltiedig ag addysg uwch.
Prentis arall yn Felindre yw Sam Jones, ac mae wedi cyfuno astudiaethau Cyfrifiadureg y Cwmwl â’i rôl fel Datblygwr Prosesau Robotig Awtomatig. Mae Sam yn canmol ei brentisiaeth am agor drysau yn ei fywyd proffesiynol trwy ei helpu i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant. Meddai ef:
“Mae’r rhaglen Radd-brentisiaeth Ddigidol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi’i chynllunio’n fanwl i gydbwyso astudiaethau yn y brifysgol â dysgu ymarferol yn y gweithle. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y pethau rydyn ni'n eu dysgu'n fwy na dim ond gwybodaeth ddamcaniaethol ond hefyd yn sgiliau mae modd eu defnyddio ar unwaith yn ein swyddi.
“Un agwedd wych ar y rhaglen hon yw'r ffordd mae'n cyd-fynd â safonau'r diwydiant. Mae'r brentisiaeth wedi cael ei hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadureg Prydain ac yn cynnig llwybrau i Statws Proffesiynol Siartredig ym maes TG. O ganlyniad, mae'n sicrhau ein bod ni nid yn unig yn ennill gradd ond hefyd yn cael cydnabyddiaeth yn y byd proffesiynol.
“Mae effaith y rhaglenni hyn yn y byd go iawn yn amlwg. Mae'r brentisiaeth yn ein hannog i ddefnyddio'r pethau rydyn ni wedi eu dysgu yn ein sefydliadau. Er enghraifft, yn Felindre, rydw i wedi llwyddo i ddefnyddio'r sgiliau hyn mewn sefyllfaoedd go iawn yn y gweithle. Mae’r defnydd ymarferol hwn o sgiliau nid yn unig o fudd i’n cyflogwyr ond mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ein twf personol a phroffesiynol.”
Mae'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu'n bwysig iawn i ni ac rydym yn gweld yn glir y gwahaniaeth y gall technoleg a mewnwelediad digidol ei wneud i’n helpu i wella ansawdd, diogelwch, profiad a chanlyniadau’r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus. Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd technoleg ddigidol, gwasanaethau digidol, gwybodaeth a mewnwelediad da wrth ddarparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel a chyflawni ein nodau hirdymor. Bydd prentisiaethau digidol yn chwarae rhan allweddol yn ein cynlluniau a bydd cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau digidol newydd gyda Felindre o fis Medi 2024 ymlaen wrth i ni ddatblygu ein partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ymhellach.
Ychwanegodd Bridget Moseley, Pennaeth yr Uned Brentisiaethau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
“Trwy gynnig prentisiaethau, mae busnesau nid yn unig yn gallu cryfhau eu busnes gyda llif o dalent ond maent hefyd yn rhoi’r sgiliau cywir i weithluoedd y dyfodol er mwyn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol ar raddfa fyd-eang. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr, rydym wedi datblygu ein portffolio o brentisiaethau i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru.”
Ewch i'r wefan hon am ragor o wybodaeth ynglŷn â gradd-brentisiaethau digidol.