Neidio i'r prif gynnwy

Mae Menter Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd yn darparu cyllid newydd ar gyfer ymchwil yng Nghymru

Dr James Powell is on the left and Dr Florian Siebzehnrubl is on the right.

3 Mai 2024

Mae Dr James Powell, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac Academydd Clinigol yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), wedi cael ei benodi’n Arweinydd Clinigol Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI), cronfa ymchwil newydd i diwmorau’r ymennydd, a sefydlwyd gan Ymchwil Canser Cymru.

Yr arweinydd gwyddonol ar gyfer BATRI ydy Dr Florian Siebzehnrubl, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Bôn-gelloedd Ewrop.

Nod BATRI, y cyntaf i Gymru, ydy dod ag arweinwyr academaidd a chlinigol at ei gilydd i ddatblygu ac adeiladu nifer o bosiectau ymchwil ffyniannus i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru.

Dywedodd Dr James Powell:

“Rwy’n falch o fod yn arwain ar y fenter genedlaethol wych hon a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ymchwil newydd ac arloesol i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru a fydd, gobeithio,yn cefnogi canlyniadau gwell i gleifion sydd â thiwmorau ar yr ymennydd.

“Bob blwyddyn yng Nghymru, mae mwy na 400 o bobl yn datblygu tiwmor ar yr ymennydd ond yn anffodus, ychydig iawn o driniaethau newydd ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd sydd wedi’u datblygu yn y 40 mlynedd diwethaf.

“Gyda’r gefnogaeth sylweddol hon gan Ymchwil Canser Cymru, mae gennym gyllid pwysig, cynaliadwy erbyn hyn, i osod ymchwil i diwmorau’r ymennydd ar blatfform cenedlaethol, a gwneud cynnydd go iawn.”

Yn hanesyddol, mae ymchwil i diwmorau’r ymennydd wedi cael ei danariannu, ac wedi derbyn llai na 2% o gyllid bob blwyddyn i ymchwilio i ganser yn y DU.

Bydd Ymchwil Canser Cymru yn rhoi £1m y flwyddyn i BATRI dros y tair blynedd nesaf. Yn 2023-2024, bydd un alwad am gyllid, ond yn y pen y draw, bydd y galwadau am gyllid yn agor ddwywaith y flwyddyn, gyda gwahoddiad am geisiadau gan ymchwilwyr sydd â chynigion newydd ac arloesol o ymchwil i diwmorau’r ymennydd.

Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru:

“Fel unig elusen ymchwil canser annibynnol Cymru, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o sefydlu’r fenter ymchwil bwysig hon, sydd ag arwyddocâd strategol i Gymru gyfan.       

"Bydd ein buddsoddiad hirdymor mewn ymchwil i diwmorau’r ymennydd yn sicrhau y bydd y clinigwyr a’r gwyddonwyr dawnus sydd gennym yn gweithio yn y maes, yn cael yr adnoddau angenrheidiol i wneud gwahaniaeth.     

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth o’r clefyd, a fydd yn arwain at driniaethau newydd a strategaethau therapiwtig i wella canlyniadau i gleifion tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae Dr Kathy Seddon, Partner Ymchwil Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd WCRC, wedi bod yn rhan o’r gwaith o lansio BATRI hefyd, ac fel cynrychiolydd y grŵp PPI, meddai:

“Rwyf wrth fy modd gyda’r newyddion am Fenter Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd gan fod fy niweddar ŵr wedi marw o diwmor ar yr ymennydd. Mae Ymchwil Canser Cymru wir yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth yn y maes hwn. Mae’n anrhydedd bod yn rhan o grŵp llywio’r fenter hon fel cyfrannwr PPI ac aelod o Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol WCRC ar gyfer canser yr ymennydd.”

Ochr yn ochr â’i rôl yn Felindre, mae Dr Powell yn academydd clinigol mewn radiotherapi hefyd, sydd yn cael ei ariannu gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru ac ar hyn o bryd, mae’n arwain Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol y Ganolfan (MDRG) ar gyfer canser yr ymennydd, sy’n dod ag arbenigwyr at ei gilydd i drafod ac i weithio gyda’i gilydd ar syniadau ymchwil sydd yn cyd-fynd â strategaeth ymchwil canser Cymru gyfan (CReSt).

Dywedodd Dr James Powell:

“Mae Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd yn adeiladu ar lwyddiant y Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol, drwy edrych ar y blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i diwmorau’r ymennydd o safbwynt cenedlaethol a strategol ac yna, darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.     

 “Rydym yn gyffrous dros ben ynghylch y fenter hon, ac yn gobeithio y bydd y cyllid newydd hwn yn darparu cyfleoedd a chymorth go iawn i ymchwilwyr yng Nghymru ddatblygu eu rhaglenni ymchwil a dod yn arweinwyr byd ym maes ymchwil i diwmorau’r ymennydd.”

Dywedodd Dr Florian Siebzehnrubl, cyd-arweinydd y MDRG ar gyfer canser yr ymennydd a dirprwy gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd:

"Fe wnaeth y gefnogaeth gryf gan WCRC ar gyfer y Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol i ganser yr ymennydd helpu i ddod â chlinigwyr ac ymchwilwyr at ei gilydd, sy'n barod i fynd i'r afael â'r problemau mwyaf heriol o ran canser yr ymennydd.      

"Mae twf parhaus ymchwil i ganser yr ymennydd dros y blynyddoedd diwethaf yn llwyddiant ysgubol i'r Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol, a bydd y cyllid cynaliadwy gan BATRI nawr yn cefnogi ymchwil newydd i ganser yr ymennydd ar draws Cymru, a fydd yn gwella canlyniadau i gleifion yn y pen draw."