Mae merch yn ei harddegau o Gaerdydd sydd wedi goroesi canser yn rhannu ei stori yn y gobaith o ysbrydoli mwy o bobl i achub bywydau gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru ar Ddiwrnod Canser y Byd (dydd Mercher 4 Chwefror).
Cafodd Mia Harris-Jones, sy'n ddwy ar bymtheg oed, ddiagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Acíwt Celloedd-T (ALL) yn 2023. Mae ALL yn fath ymosodol o ganser y gwaed sy'n datblygu'n gyflym ym mêr yr esgyrn.
Aeth Mia’n sâl yn gyntaf gyda phoenau difrifol yn y stumog, cyfog a blinder, gan sylwi’n ddiweddarach ar gleisio a brechau heb eu hesbonio. Wrth i’w hiechyd waethygu, aeth ei mam Jade â hi i’r ysbyty gyda llid yr ymennydd yn cael ei amau. Ar ôl sawl diwrnod o brofion a sganiau, derbyniodd Mia’r diagnosis o ALL a newidiodd ei bywyd. Roedd y canser wedi lledu i’w nodau lymff erbyn iddi gael diagnosis, ac roedd màs mawr o gelloedd canseraidd wedi tyfu o amgylch ei llinyn asgwrn cefn, gan adael dim dewis i’r meddygon ond dechrau cemotherapi ymosodol ar unwaith.
Drwy gydol ei thriniaeth, derbyniodd Mia dros 40 o drallwysiadau gwaed a phlatennau, pob un yn hanfodol i'w chadw'n ddigon iach i barhau â'i chemotherapi.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Mia: “Yn ystod fy nhriniaeth lewcemia, roedd angen cymaint o drallwysiadau gwaed a phlatennau arnaf, roedd hi’n anodd cadw cyfrif. Daeth y rhoddion hynny gan bobl na fyddaf byth yn eu cyfarfod, mae’n debyg, ond fe wnaethon nhw wahaniaeth enfawr. Helpodd rhoddwyr gwaed fi i gadw’n ddigon cryf i barhau.
"Mae lewcemia yn newid sut rydych chi'n gweld y byd. Mae'n eich dysgu y gall eich bywyd ddibynnu ar garedigrwydd dieithriaid, ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sy'n dewis rhoi a helpu rhywun fel fi."
Yn ystod ei chyfnod yn Ysbyty Plant Arch Noa, daeth Mia yn 'chwaer fawr' gefnogol i lawer o'r cleifion iau yn yr uned oncoleg. Mae ei hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o ganser plentyndod a phobl ifanc wedi ei harwain o rannu ei stori ar-lein i siarad yn y Senedd. Cydnabuwyd ei hymdrechion gyda lle yn y rownd derfynol ar gyfer Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn 2025 yng Ngwobrau Elusennau Cymru.
Ychwanegodd ei mam, Jade: “Fel rhiant i blentyn sydd wedi cael triniaeth ar gyfer lewcemia, rydw i wedi gweld yn uniongyrchol pa mor hanfodol yw rhoi gwaed. Mae trallwysiadau gwaed yn rhan reolaidd a hanfodol o driniaeth, gan helpu ein plant i aros yn ddigon cryf i barhau i ymladd.
"I bawb sy'n rhoi gwaed neu blatennau, diolch i chi am roi gobaith i deuluoedd fel ein un ni."
Mae Mia wedi derbyn ei dos olaf o gemotherapi ac mae'n gobeithio canu'r gloch yn fuan i nodi diwedd ei thriniaeth.
Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae straeon fel straeon Mia yn dangos gwir werth rhoi gwaed, nid yn unig i’r claf sy’n derbyn y trallwysiad ond hefyd i’w teuluoedd a’u hanwyliaid.”
Er bod llawer o gleifion canser y gwaed yn derbyn cemotherapi a meddyginiaeth, i rai, yr unig iachâd posibl yw trawsblaniad celloedd bonyn. Nod Gwasanaeth Gwaed Cymru yw recriwtio 6,000 o wirfoddolwyr rhwng 16 a 30 oed neu 16 i 45 oed o gefndiroedd du, Asiaidd, cymysg neu ethnig lleiafrifol i ymuno â'i gofrestrfa celloedd bonyn bob blwyddyn.
Parhaodd Alan: "Yn anffodus, nid yw tri o bob deg claf ledled y byd yn dod o hyd i'r celloedd bonyn sydd eu hangen yn daer. Mae'r nifer hwnnw hyd yn oed yn uwch, saith o bob deg, ar gyfer cleifion o gefndiroedd Du, Asiaidd, cymysg neu leiafrifol ethnig. Mae angen mwy o wirfoddolwyr o'r cymunedau hyn ar frys i ymuno â'n panel o achubwyr bywyd.
“Rydym yn gweithio’n galed i recriwtio mwy o bobl i’n cofrestrfa celloedd bonyn, naill ai pan fyddant yn rhoi gwaed neu drwy ofyn am becyn swab drwy ein gwefan. Caiff pecynnau eu danfon yn syth i’ch drws, gan wneud ymuno â’r gofrestr yn haws nag erioed o’r blaen.”