7 Tachwedd 2023
Mae canlyniadau treial INTERLACE yn nodi'r cynnydd mwyaf mewn cyffuriau canser ceg y groth mewn 20 mlynedd.
Yn ddiweddar, adroddwyd am lwyddiant treial clinigol INTERLACE, gan ddod â'r addewid o welliant mewn canlyniadau i fenywod sydd wedi cael diagnosis o ganser ceg y groth.
Mae Emma Hudson, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol a Phrif Ymchwilydd ar gyfer y treial hwn yn Felindre, yn falch o fod wedi bod yn rhan o'r astudiaeth lwyddiannus hon, a fydd yn dod yn safon newydd o driniaeth ar gyfer canser ceg y groth.
"Rwy'n ddiolchgar iawn bod cleifion o Gymru wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y treial clinigol hwn, a hoffwn ddiolch i'r rhai a wnaeth y penderfyniad pwysig iawn i gymryd rhan. Canolfan Ganser Felindre oedd un o'r canolfannau recriwtio gorau mewn perthynas â’r treial hwn yn y DU, ac ni all ymchwil symud ymlaen heb ymrwymiad ein cleifion i dreialon clinigol.
"Mae'r canlyniadau hyn yn wych i'n cleifion yn y dyfodol a fydd yn elwa o'r driniaeth newydd."
Gwelodd INTERLACE fod hanner y cleifion oedd yn cymryd rhan yn y treial yn derbyn cwrs ychwanegol o gemotherapi carboplatin a paclitaxel unwaith yr wythnos am chwe wythnos, cyn derbyn y cyfuniad safonol o radiotherapi ynghyd â cisplatin a bracitherapi bob wythnos, sydd yn cael ei alw’n cemo-ymbelydredd.
Dim ond y cemo-ymbelydredd arferol a dderbyniodd y grŵp rheoli.
Mae'r canlyniadau'n dangos, ar ôl pum mlynedd:
Mae hyn yn cymharu â'r grŵp rheoli, lle nad oedd canser 64% o’r bobl wedi dod yn ôl nac wedi lledaenu, ac roedd 72% yn fyw.
Dywedodd Dr Iain Foulkes o Cancer Research UK a ariannodd dreial dan arweiniad Sefydliad Canser UCL:
"Amseru yw popeth pan rydych chi'n trin canser.
"Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos y gwerth o gael rowndiau ychwanegol o gemotherapi cyn triniaethau eraill fel llawdriniaeth a radiotherapi mewn sawl canser arall. Nid yn unig y gall leihau'r siawns o’r canser yn dod yn ôl, ond gellir ei gyflwyno'n gyflym gan ddefnyddio cyffuriau sydd eisoes ar gael ar draws y byd.
"Rydym yn gyffrous am y gwelliannau y gallai'r treial hwn eu cynnig i driniaeth canser ceg y groth, ac rydym yn gobeithio y bydd cyrsiau byr o gemotherapi yn cael eu mabwysiadu'n gyflym yn y clinig."
Gallwch ddarllen mwy am y stori lwyddiant hon ar wefan y BBC.