14 Mai 2024
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi croesawu penodiad Dr Susanna Whawell yn Aelod Annibynnol Cyswllt newydd o'r Bwrdd.
Mae Dr Whawell yn ymuno â Felindre gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y gadwyn gyflenwi a logisteg ar draws amrywiaeth o gwmnïau blaenllaw a rhyngwladol.
Nod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yw goruchwylio'r system lywodraethu a rheoli, gan gynnwys rheoli risg. Mae hyn yn golygu bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd mae pethau'n gweithredu a sut i gadw staff a chleifion yn ddiogel. Mae'n gwneud hynny trwy gyfarfod mewn llawer o wahanol grwpiau sy'n canolbwyntio ar feysydd gwahanol o weithrediadau'r Ymddiriedolaeth. Yr enw ar hyn yw 'pwyllgorau'.
Fel aelod annibynnol, rôl Dr Whawell fel Aelod Annibynnol Cyswllt fydd cyfrannu ei sgiliau a’i harbenigedd ar draws amrywiaeth eang o feysydd. Ar ôl gweithredu systemau integredig yn llwyddiannus mewn sefydliadau o bob maint, bydd cefndir ac arbenigedd Dr Whawell yn dwyn llawer o fanteision i Felindre.
Wrth siarad am y penodiad newydd i Felindre, meddai Dr Whawell:
"Rwy'n falch iawn o ymuno â Felindre, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol at weithgareddau'r Bwrdd."
Yn ogystal ag archwilio rheolaidd, mae Dr Whawell yn academydd ymchwil ac yn adolygydd, ac mae ei diddordebau academaidd yn ymwneud â rhyngwyneb systemau dynol a goresgyn rhwystrau rhag gweithredu a defnyddio systemau yn llwyddiannus.
Mae Dr Whawell hefyd yn addysgu'n rhan-amser yn Ysgol Fusnes Manceinion, ac mae hi hefyd yn addysgu cyrsiau i Archwilwyr Arweiniol ar gyfer corff hyfforddi achrededig Cofrestr Ryngwladol yr Archwilwyr Tystysgrifedig (IRCA).
Yn ei hamser hamdden, mae Dr Whawell yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol (RAFA) i gefnogi cyn-filwyr, ac mae’n mwynhau chwarae’r sacsoffon yn rhan o gerddorfa sacsoffon.