Neidio i'r prif gynnwy

Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2026 bellach ar agor

The NHS Wales Awards 2026

20 Mai 2026

Mae Gwobrau GIG Cymru yn ôl, yn dathlu rhagoriaeth wrth ysgogi gwelliannau a thrawsnewid gwasanaethau ledled Cymru.

Bellach yn mynd i mewn i'w ddeunawfed flwyddyn, mae'r gwobrau, a gynhelir gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru, yn parhau i arddangos timau sy'n ysgogi gwelliannau mewn ansawdd, diogelwch a pherfformiad i drawsnewid gwasanaethau, profiadau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.


Pam cyflwyno cais?

Gall eich syniadau ar gyfer newid wneud gwahaniaeth go iawn i'r bobl yn eich gofal, eich sefydliad a'r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Os ydych chi neu'ch tîm wedi arwain prosiectau gwella arloesol neu wedi dangos perfformiad o ansawdd uchel yn gyson, yna rydyn ni am glywed gennych chi.

Drwy gymryd rhan yn y gwobrau, gallwch wneud y canlynol:

  • rhannu eich llwyddiant,
  • codi proffil eich gwaith gwella ansawdd,
  • lledaenu eich dysgu a'ch gwelliannau,
  • bod yn rhan o gymuned o ddysgu a gwella ledled Cymru.

Yn newydd ar gyfer 2026

Am y tro cyntaf erioed, gall pob cydweithiwr ar draws GIG Cymru gymryd rhan.

Gofynnir i dimau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ddarparu poster yn arddangos eu prosiect, a gwahoddir cydweithwyr o bob cwr o GIG Cymru i bleidleisio dros enillwyr y categori.


Sut i gyflwyno cais?

Ewch i gwobraugig.cymru i weld y Canllaw Mynediad, gwybodaeth am y categori a'r ddolen i ymgeisio drwy'r platfform gwobrau ar-lein.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn. Mae ceisiadau'n cau am 5pm ar ddydd Llun 15 Mehefin. Bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Bydd pob tîm sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo gyda'r nos yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd, lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi. Darperir rhagor o fanylion am y seremoni yn fuan.