Neidio i'r prif gynnwy

Llyfrgellydd Felindre yn un o 125 o arweinwyr arbenigol y genhedlaeth nesaf

A photo of Anne Cleves alongside the logo for the Chartered Institute of Library and Information Professionals.

Mae’n bleser cyhoeddi bod aelod o staff ein llyfrgell wedi ei enwi ar restr o 125 o bobl amlwg y genhedlaeth nesaf o arweinwyr arbenigol ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth.

Mae Anne Cleves, Rheolwr Cynorthwyol ein Llyfrgell a’n Harbenigwr Gwybodaeth Cynorthwyol, wedi cael cydnabyddiaeth arbennig gan Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol ym maes Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (CILIP).

Cafodd y rhestr ei llunio i ddathlu 125 o flynyddoedd ers dyfarnu Siarter Frenhinol CILIP. Gofynnwyd i aelodau CILIP enwebu unigolion sy’n sbarduno newid cadarnhaol ac yn gwneud gwahaniaeth, a chafodd rôl ddylanwadol Anne ei chydnabod yn haeddiannol.

Mae Anne, sy’n gweithio i’r Ymddiriedolaeth ers 19 o flynyddoedd, yn falch o gael ei disgrifio’n un o’r gweithwyr proffesiynol arbenigol a fydd yn helpu i arwain y sector at oes newydd o wybodaeth.

“Anrhydedd yw cael fy enwebu a fy nghynnwys ar y rhestr hon o weithwyr proffesiynol anhygoel ym maes gwybodaeth, sy’n amlygu amrywiaeth a chryfder y proffesiwn. Wrth i’r byd digidol esblygu o hyd, mae llyfrgelloedd a’u staff medrus yr un mor bwysig heddiw ag yr oeddent 125 o flynyddoedd yn ôl, ac rwy’n falch o gael fy ystyried yn un ohonynt.”

Ac yntau’n un o safleoedd Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth yr Ymddiriedolaeth yn darparu llyfrgell lawn i staff y GIG a staff academaidd, yn ogystal â myfyrwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys llyfrgell arbenigol ar gyfer canser yng Nghanolfan Ganser Felindre – yr unig un o'i fath yng Nghymru – sydd ar gael 24 awr y dydd i staff yr Ymddiriedolaeth. Mae gwasanaeth o bell ar gael i Wasanaeth Gwaed Cymru, Pencadlys Felindre a chyrff eraill a letyir, fel Technoleg Iechyd Cymru.

Un o'r gwasanaethau allweddol mae Anne a'i chydweithwyr yn eu darparu yw’r gwasanaeth chwilio am lenyddiaeth, sy’n llywio gofal cleifion, gwaith ymchwil, gwaith datblygu gwasanaethau ac arloesi. Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu’r staff i ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer pob math o gwestiynau sy'n ymwneud ag iechyd. Bydd y tîm yn chwilio trwy sawl cronfa ddata wahanol ac yn casglu’r canfyddiadau, gan sicrhau bod unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth.

Nid yn unig y mae Anne yn cynnal y chwiliadau medrus hyn ei hun, ond mae hi hefyd yn helpu i uwchsgilio’r staff ym mhob rhan o’r Ymddiriedolaeth ac yn gwella effeithlonrwydd trwy gynnig ffyrdd o gadw’n gyfoes â’r llond llu o lenyddiaeth newydd sy’n cael ei chyhoeddi bob dydd.

Er mwyn helpu’r staff yn eu meysydd priodol, mae Anne yn eu helpu i wneud gwell defnydd o adnoddau allweddol ac i fagu gwell dealltwriaeth ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys cronfeydd data, e-gyfnodolion, KnowledgeShare, llyfrgelloedd GIG Cymru, hysbysiadau o gyfnodolion, hysbysiadau o gronfeydd data, ffrydiau RSS a chylchlythyrau.

Meddai Nick Poole, Prif Swyddog Gweithredol CILIP:

“Wrth i ni wynebu mwy o newid a chyfleoedd yn y blynyddoedd sydd i ddod, dod i arfer â thirwedd ddigidol sy’n datblygu’n gyflym, wynebu heriau eraill o ran sensoriaeth a chamwybodaeth a diwallu’r angen cynyddol frys i fyw a gweithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, bydd y 125 o weithwyr proffesiynol newydd hyn yn arwain y ffordd.

“Dyma garfan o unigolion angerddol, sy’n cyfrannu egni, gwybodaeth ac effaith i’r sefydliadau, y mudiadau a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu

“Dros 125 o flynyddoedd, mae ein haelodau wedi gweld datblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ac wedi cyfrannu at waith ymchwil a datblygu. Rydym wedi gweld newid cymdeithasol ac yn gweithio’n galed i frwydro yn erbyn cynnydd mewn camwybodaeth.

“Rydym wedi byw trwy economi heriol, goroesi dirywiad mewn cyllid wrth frwydro dros gyfiawnder cymdeithasol a chynnig noddfa, cysur a diogelwch i’r rheiny sydd wedi cael eu dadleoli, eu herio gan gostau byw neu sydd am gael cymorth a gwybodaeth hanfodol mewn amgylchedd niwtral.”