23 Tachwedd 2023
Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Nyrsio Oncoleg y DU (UKONS) 2023 yng Nghasnewydd eleni a chydnabuwyd gwaith rhai o’n nyrsys a chydweithwyr eraill.
Derbyniwyd ac arddangoswyd 11 o bosteri yn y gynhadledd, sef y nifer uchaf erioed, a dewiswyd Hannah Churchill i gyflwyno ei gwaith ar y Pasbort Digidol ar gyfer Triniaeth Systemtig Gwrth-ganser (SACT).
Thema’r gynhadledd eleni oedd Awn ni i integreiddio gofal canser a dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yng Nghymru.
Yn ogystal â hynny, daeth mwy o gynrychiolwyr nag erioed yn hanes y gynhadledd a derbyniwyd y nifer fwyaf o bosteri hefyd.
Meddai Hannah Russon, Arweinydd Prosiect Academi Oncoleg Felindre: “Roeddem yn falch iawn fod gan y Gwasanaeth Canser gynrychiolaeth mor wych yn y gynhadledd a bod modd arddangos holl brosiectau gwych rhai o’n nyrsys ynghyd ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol a'r Byrddau Iechyd Prifysgol cyfagos.
“Hefyd, roedd hi'n braf iawn fod Hannah Churchill (yn y llun ar y chwith) wedi ei dewis i gyflwyno ei gwaith ar Basbort Digidol UKONS a bod Rhianydd Jones wedi hwyluso trafodaeth fywiog ar y gwaith o esblygu triniaeth systemig gwrth-ganser o fod yn driniaeth drwy'r wythïen i fod yn driniaeth o dan y croen.
"A hithau'n aelod o fwrdd UKONS, bu Dr Rosie Roberts yn cadeirio sesiynau grŵp ond bu hefyd yn cynrychioli Felindre ac ar i'w phoster cael ei dderbyn.. Cafodd yr holl bosteri a chyflwyniadau ymateb da iawn gan gynrychiolwyr eraill yn y gynhadledd ac roeddem yn falch iawn o chwifio'r faner dros Felindre."