19 Tachwedd 2025
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog yng Ngwobrau GIG Cymru eleni, sy'n cydnabod gwelliannau mewn ansawdd a diogelwch sy'n trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.
Anrhydeddwyd ein timau yn y categorïau canlynol:
Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
Gwasanaeth Tocsigedd Imiwnotherapi De-ddwyrain Cymru
Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
Cychwyn Offer Asesu Diagnosteg yn y Cartref ar gyfer Cynnal Profion yn y Man Lle y Rhoddir Gofal ar Gleifion Gofal Cefnogol a Gofal Lliniarol yn y Gymuned, i Hwyluso Gofal yn y Cartref ar gyfer cyflyrau Diwedd Oes sy'n Cyfyngu ar Fywyd
(Mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)
Meddai Kate Hannam, Cyfarwyddwr Adrannol Gwasanaeth Canser Felindre: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ymroddiad ac arbenigedd ein staff, ac yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gofal diogel, effeithiol ac arloesol ledled de-ddwyrain Cymru.
“Drwy gydweithio â’n partneriaid a chofleidio dulliau newydd, rydym yn gwella profiadau a chanlyniadau i’n cleifion yn ystod rhai o’r cyfnodau mwyaf heriol yn eu bywydau.”
Mae'r prosiectau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Felindre i arloesi, cydweithio a gofal sy'n canolbwyntio ar y claf. O alluogi pobl â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd i gael profion hanfodol gartref, i wella diogelwch i gleifion sy'n derbyn imiwnotherapi, mae ein timau'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod rhai o'r cyfnodau mwyaf heriol ym mywydau pobl.
Nid dathliad yn unig oedd y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ond hefyd cyfle i rannu dysgu ar draws GIG Cymru. Dangosodd ein timau eu gwaith yn falch trwy sesiynau poster a sgyrsiau ysgafn, gan helpu i ledaenu syniadau gwych y gellir eu ehangu ar draws y system.