Ar ôl dwy flynedd o ddatblygu gyda thîm gweithredu clinigol Varian, mae Adran Radiotherapi Felindre wedi dechrau’r gwaith o droi at brosesau di-bapur yn gyfan gwbl.
Bydd pob cais newydd am radiotherapi'n dod trwy system reoli oncoleg Varian, Aria. Bydd y cleifion hyn yn dilyn llif gwaith hollol ddi-bapur. Bydd ceisiadau radiotherapi a grëwyd gynt gan ddefnyddio WCP IRMER yn parhau hyd ddiwedd triniaeth y cleifion hynny gan ddefnyddio llifoedd gwaith papur. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd, diogelwch a phrofiad personol i gleifion. Mae hwn yn gyflawniad allweddol a fydd yn helpu i wireddu holl fanteision y cynllun radiotherapi integredig hwn i gleifion. Cafodd y claf cyntaf ar y broses ddi-bapur ei drin ddydd Mercher yr wythnos hon.
Mae'r tîm wedi canolbwyntio ar sicrhau arferion gwaith diogel a dileu datrysiadau hanesyddol oherwydd y defnydd o systemau etifeddol, fel CANISC. Ar ôl cyfnod cychwynnol o weithredu, pan fydd y staff yn fwy hyderus ac yn gyfarwydd â'r system, byddwn yn casglu ac yn adolygu adborth ar lifoedd gwaith Aria gyda'r nod o wella effeithlonrwydd a chyflwyno swyddogaethau newydd i wrth i Aria ddiweddaru ei systemau.
Yn ogystal â hynny, bydd y tîm yn cyflwyno systemau i wneud y mwyaf o Aria (Varian Mobile), dadansoddi llifoedd gwaith a data radiotherapi (Varian InSightive) a darparu gwybodaeth i gleifion trwy raglen ddigidol (Varian Noona).
Hoffai Philip Parsons, Arweinydd Cyfrifiadura’r IRS, ddiolch i’r holl dîm am eu gwaith caled a’u hymrwymiad dros y cyfnod gweithredu, yn enwedig yn ystod yr holl ddyddiau hir. Mae hefyd yn diolch i'r holl staff am eu hamynedd a'u parodrwydd i roi adborth i'r tîm.
Gweithiodd Emmett, sy'n Arbenigwr Gweithredu Clinigol ar gyfer Varian, yn agos gyda’r tîm yn ystod yr wythnos weithredu a llongyfarchodd y tîm am eu llwyddiannau:
“Yn gyntaf, rydw i am eich llongyfarch chi i gyd am eich llif gwaith adrannol yr wythnos hon! Yn ail, hoffwn i gydnabod gwaith y tîm craidd clinigol, Gavyn, Helen, Hannah, Lucy, Phil, Dot, Clare a Tom!
Diolch am eich ymdrechion dros y misoedd diwethaf, ac am weithio dros benwythnosau hir cyn y cyfnod gweithredu! Mae'r tîm wedi mynd i'r afael â phob rhwystr a her o ran llifoedd gwaith gydag agwedd gadarnhaol ac mae hynny'n amlwg yng nghanlyniadau'r ymgyrch hon.
Mae’r wythnos gyfan wedi bod mor drefnus ac effeithlon, ac roedd yn drawiadol gweld cymaint roedd pawb yn cadw eu pwyll drwyddi draw. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymroddiad, y gwaith tîm a’r ymdrech rydych chi i gyd wedi’i roi i’r prosiect hwn hyd yn hyn, ac am yr hyn rwy’n siŵr y byddwch yn ei wneud dros y camau nesaf yn y misoedd/blynyddoedd nesaf.”