Neidio i'r prif gynnwy

Lindsay Foyster yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Lindsay Foyster is smiling alongside the Velindre University NHS Trust logo.

1 Mai 2024

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o groesawu Lindsay Foyster yn Aelod Annibynnol newydd o'r Bwrdd.

Mae Lindsay yn ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn Felindre am dymor o bedair blynedd ac yn dod i’r sefydliad gyda chyfoeth o brofiad strategol yn y trydydd sector ac yn y  sector cyhoeddus.

Nod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yw goruchwylio'r system lywodraethu a rheoli, gan gynnwys rheoli risg. Mae hyn yn golygu bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd mae pethau'n gweithredu a sut i gadw staff a chleifion yn ddiogel. Mae'n gwneud hynny trwy gyfarfod mewn llawer o wahanol grwpiau sy'n canolbwyntio ar feysydd gwahanol o weithrediadau'r Ymddiriedolaeth. Yr enw ar hyn yw 'pwyllgorau'.

Fel aelod annibynnol, rôl Lindsay fydd cyfrannu ei sgiliau a’i harbenigedd ar draws amrywiaeth eang o feysydd. Mae profiad helaeth Lindsay a’i hangerdd dros gydraddoldeb, tegwch, amrywiaeth, arfer cynhwysol a diwylliannau sefydliadol yn dod â nifer o fanteision i Felindre.

Wrth siarad am y penodiad newydd i Felindre, meddai Lindsay:

“Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Bwrdd sefydliad sydd mor bwysig ym mywyd cynifer o bobl yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru. Mae’n golygu llawer iawn i mi’n bersonol ac edrychaf ymlaen at fy rôl newydd, yn enwedig gyda’i ffocws penodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.”

A hithau ar hyn o bryd yn Aelod Lleyg o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, mae Lindsay hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru rhwng 2020-2023 a bu’n aelod anweithredol o’r Bwrdd yno ers 2015.

Mae Lindsay wedi cael gyrfa ddisglair yn y sector elusennol yng Nghymru, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Mind Cymru rhwng 1995 a 2014, ar ôl gweithio mewn sawl swydd ym maes datblygu iechyd meddwl a gwaith cymorth.

Bu Lindsay hefyd yn llywodraethwr ysgol am nifer o flynyddoedd gan gynnwys fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd, yn ogystal â gwasanaethu am gyfnod byr fel Cynghorydd Cymuned lleol. Hi oedd yr Arweinydd Amrywiaeth Gorfforaethol ar gyfer Mind a Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Bwrdd Anweithredol yn Archwilio Cymru.

Yn ei hamser rhydd, mae Lindsay yn gwirfoddoli fel un o’r Ymatebwyr Lles Cymunedol cyntaf gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer ei chymunedau lleol yn ardal Caerffili a Chasnewydd.