Neidio i'r prif gynnwy

Lansio mentrau newydd ar gyfer cleifion yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc yn Felindre

Three polaroid photos are pinned. They show a group of fundraisers, wellbeing boxes, and the front of Velindre Cancer Centre.

21 Tachwedd 2023

Mae dwy fenter newydd wedi cael eu cyflwyno i wella lles ac i gysuro cleifion yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc sy'n cael triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Cynhaliwyd digwyddiad lansio yn yr ystafell i deuluoedd yn gynharach ddoe; roedd y codwyr arian yn bresennol a helpodd i godi arian ar gyfer y gwelliannau oedran-benodol, a fydd o fudd i gleifion 15-24 oed yn y rhanbarth ac yn benodol, yn yr 'Ysbyty Gobaith.'

Y mentrau yw: 

  • Bocsys lles, sy'n cynnwys eitemau ac adnoddau i gefnogi cleifion mewnol sydd yn gorfod aros yn yr ysbyty, gan gynnwys gweithgareddau, llyfrau, posau, danteithion. Bydd y rhain yn cael eu cynnig i gleifion pan maen nhw’n cyrraedd, ac yn cael eu hail-lenwi'n rheolaidd. 
  • Consolau gemau i'w defnyddio gan gleifion thyroid sy'n derbyn ïodin ymbelydrol mewn ystafelloedd ynysu, i helpu i leihau diflastod ac i geisio eu diddanu.

Mae  Matthew Walkin Make a Smile Foundation a'r Teenage Cancer Trust wedi rhoi cymorth gwerthfawr i'r gwelliannau.

Dywedodd Kate Morgan, Arbenigwr Nyrsio Clinigol Allgymorth Cleifion yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc:

"Mae amser yn yr ysbyty yn gallu bod yn aflonyddgar ac yn ofidus ac yn aml, mae’r dyddiau'n gallu bod yn hir iawn. Mae'r consolau gemau a’r gemau eisoes yn cael eu defnyddio, ac maen nhw’n darparu adloniant, yn tynnu sylw, ac yn helpu pobl ifanc i barhau i gael rhyw fath o normalrwydd.

"Mae'r effaith ar eu lles emosiynol wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae un o'r consolau gemau wedi'i ddarparu'n benodol i'r cleifion sy'n cael triniaeth ïodin ymbelydrol ar gyfer canserau'r thyroid, sy'n golygu eu bod nhw’n gorfod treulio hyd at dridiau ar eu pen eu hunain i dderbyn y driniaeth.

"Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn teimlo'n gymharol dda yn ystod y driniaeth hon, ond mae protocolau llym iawn ynghylch beth y gall y person ifanc ddod gyda nhw i’r ciwbiclau ynysu bach, ac ni chaniateir ymwelwyr. Rydyn ni wedi cael adborth gwerthfawrogol iawn gan bobl ifanc o ran faint maen nhw wedi gwerthfawrogi cael y consolau gemau yno i helpu i basio'r oriau hir."

Mae tua 2,300 o bobl ifanc 15-24 oed yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yn y DU, ac mae o leiaf 88 o wahanol is-fathau o ganserau pobl ifanc. Gan fod canserau pobl ifanc yn gallu bob yn wahanol i ganserau mewn plant ac oedolion, mae angen triniaeth arbenigol yn aml ar gyfer y grŵp oedran.

Dywedodd codwyr arian o’r Matthew Walkin Make a Smile Foundation, a gyfrannodd at y gwelliannau:

"'Er ei bod yn amhosib gwneud y daith o fynd drwy driniaeth yn haws, nod elusen Matt yw ceisio helpu i dynnu meddwl claf oddi ar yr hyn sy'n digwydd, a’u helpu i wenu wrth fynd trwy driniaeth.

"Sefydlwyd y sefydliad gan Matthew Walklin, a gafodd gemotherapi yn Felindre. Bu farw Matt ym mis Mawrth 2012 yn 28 oed. Yr elusen yw ei etifeddiaeth, gyda'r nod o wella'r cymorth sydd ar gael i gleifion canser, a gwella eu cysur a'u lles."

Mae'r Arbenigwyr Nyrsio Clinigol Kate Morgan a Steph Smith, y mae eu rolau yn cael eu hariannu gan y Teenage Cancer Trust, a'r Cydlynydd Cymorth Ieuenctid Anna Davies, wedi bod yn cyflwyno gwasanaeth allgymorth i gleifion yn eu Harddegau ac Oedolion Ifanc yn Ne Cymru, gan gynnwys yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Nid yw’r gwasanaethau hyn wedi cael eu comisiynu yng Nghymru eto, felly mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn bwysicach nag erioed o ran sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ar hyd eu taith ganser. Mae mentrau fel y bocsys lles a'r consolau gemau yn allweddol o ran cefnogi cleifion yn eu harddegau ac oedolion ifanc â chanser, ac ni fyddai'n bosibl heb gefnogaeth codwyr arian.

Ewch i wefan Teenage Cancer Trust am fwy o wybodaeth.