Mae'r Tîm Cynaliadwy, Canolfan Ganser Felindre newydd a Phrosiectau'r Gwaith Galluogi wedi dod ynghyd i gynnal Jambori Haf Cynaliadwy mewn pabell enfawr yng Nghanolfan Ganser Felindre. Bydd y babell y tu allan i Ganolfan Lles Noddfa yn 19 Heol y Parc (ger y maes parcio yng nghefn yr ysbyty).
Bydd y babell yn cael ei chodi'r wythnos nesaf, felly galwch heibio o fore Mercher i weld beth sy'n digwydd...
Bydd gyda ni raglen llawn digwyddiadau i'r staff ac i deuluoedd, gan gynnwys llwyth o weithgareddau celf a chrefft cynaliadwy i ddidannu'r plant dros yr haf.
Bydd ioga yn ystod amser cinio, sesiynau siarad a gweithdai, gan gynnwys Parti Cyfnewid Dillad gyda'r dylanwadwr ffasiwn cynaliadwy, Rachel Pridmore (@Ticketyboo0 ar Instagram), a Gweithdy Comedi gyda Mike Collins sy'n enwog ym myd comics Marvel!
Uchafbwyntiau'r wythnos gyntaf: Y celfyddydau ym maes iechyd – hel atgofion o'r Ganolfan Ganser wrth i ni ddechrau ein taith at y Ganolfan newydd, diwrnod galw heibio'r babell i'r staff a Diwrnod Celf a Chrefft gyda phryfed – dewch â'r plant am hwyl a sbri!
Bydd pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac rydyn ni'n ddiolchgar i'r nifer lu o bobl sydd wedi rhoi o'u hamser.
E-bostiwch Sustainabilty.Velindre@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth!