29 Mawrth 2023
Mae Dr Hilary Williams, ymgynghorydd mewn oncoleg feddygol yng Nghanolfan Ganser Felindre, wedi'i hethol yn Is-lywydd nesaf Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ar gyfer Cymru.
Corff aelodaeth proffesiynol gyda chenhadaeth graidd i yrru gwelliannau mewn iechyd a gofal iechyd drwy eiriolaeth, addysg ac ymchwil yw'r RCP.
A hithau’n arweinydd clinigol ar gyfer gofal canser brys yng Nghymru, mae Dr Williams yn angerddol dros gefnogi meddygon ledled y wlad a bydd ei thymor yn y rôl anrhydeddus hon yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2023.
Dywedodd Dr Williams, Is-lywydd Etholedig y RCP ar gyfer Cymru:
"Ymunais â'r RCP oherwydd rwyf eisiau gweithio mewn GIG lle mae meddygon yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Pan ddechreuais fy ngyrfa feddygol yn Sheffield, doedd cleifion ddim yn cael eu nyrsio mewn coridorau, anaml y byddai ambiwlansys yn ciwio, a doedden ni ddim yn cael symud cleifion yng nghanol y nos i ryddhau gwelyau.
"Rwy'n awyddus i wrando ar aelodau a chymrodyr a gweithio gyda'n rhwydwaith o gynghorwyr rhanbarthol, tiwtoriaid coleg a chynrychiolwyr dan hyfforddiant i gynnig atebion cydweithredol sy'n cefnogi'r gweithlu meddygol, lleihau amrywiaeth mewn gofal, a chynnal safonau proffesiynol uchel ar draws GIG Cymru.
"Ar hyn o bryd mae'n anodd dychmygu GIG lle mae gan dimau sy'n gweithio ym maes meddygaeth acíwt ddigon o amser i fyfyrio ac i fwynhau gofalu am eu cleifion. Mae angen mwy o staff ar lawr gwlad, ar draws pob arbenigedd a phroffesiwn, ac rwyf am weithio gyda chyrff proffesiynol eraill i sbarduno newid a gwella canlyniadau ar raddfa fawr ac ar gyflymdra. Mae’n rhaid i glinigwyr ddangos arweiniad ar ddyfodol ein GIG, dim ond wedyn y gallwn ni sicrhau bod ein cleifion yn cael y gofal o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu."
Yn ei swydd newydd, mae Dr Williams eisiau gweithio ar ran cymrodyr ac aelodau’r RCP i ymgyrchu i gael mwy o staff i’r GIG, safonau uwch o ofal, a gwell profiad i gleifion yng Nghymru. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, sy'n gyfrifol am Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru yn llwyr gytun.
Dywedodd Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
"Rwy'n falch iawn o longyfarch Dr Williams ar ei rôl newydd fel Is-lywydd y RCP ar gyfer Cymru. Mae hyn yn gyflawniad sylweddol, ac rwy'n hyderus y bydd ei harweinyddiaeth effeithiol a'i hymdrechion i wella, yn gwneud gwahaniaeth i'w chydweithwyr a chleifion ledled y wlad."
Hyfforddodd Dr Williams yn Sheffield cyn cwblhau PhD yng Nghaeredin mewn imiwnoleg a firysau oncogenig, ac yna bu'n gweithio fel cofrestrydd yn Ne Orllewin Lloegr. Daeth yn gynghorydd rhanbarthol y RCP ar gyfer De Ddwyrain Cymru yn 2018 cyn cael ei hethol i Gyngor y RCP yn 2022. A hithau’n sylfaenydd gweithredol Cymdeithas Oncoleg Acíwt y DU ac arweinydd Rhwydwaith Canser Cymru ar gyfer oncoleg acíwt, mae Dr Williams hefyd yn fentor ar gyfer rhaglen Menywod mewn Arweinyddiaeth y RCP. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau cerdded mynyddoedd Cymru.
Am gyfweliadau neu ragor o wybodaeth, cysylltwch: lowri.jackson@rcp.ac.uk