Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael brechlyn ffliw am ddim

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig, er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn disgwyl tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae pryderon y gall ddechrau'n gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl.

Yn ogystal, mae rhaglen pigiad atgyfnerthu'r hydref Covid-19 bellach yn mynd rhagddi ac mae llawer o bobl gan gynnwys pawb dros 50 oed, a'r rhai sy'n wynebu risg o glefyd difrifol ymhlith y rhai sy'n cael cynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Mae achosion o ffliw eisoes yn cael eu canfod yng Nghymru. Mae gwyddonwyr iechyd cyhoeddus yn dweud y gallai'r tymor ffliw fod mor ddifrifol â'r achosion o ffliw yn 2017/18, pan gafodd 16.5 mil o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ffliw gan eu meddyg teulu, ac roedd yn rhaid i 2,500 o bobl fynd i'r ysbyty. Roedd hefyd lefel uchel o farwolaethau ychwanegol tymhorol y flwyddyn honno – y gwaethaf ers tua 20 mlynedd.

Ers mis Mawrth 2020, mae cyfnodau clo Covid-19 a chyfyngiadau teithio rhyngwladol wedi amharu ar faint o feirysau anadlol sydd ar led, ond wrth i'n bywydau fynd yn ôl i'r arfer, mae feirysau'n dychwelyd mewn niferoedd uwch. Eleni, profodd Awstralia dymor ffliw a oedd yn gynharach nag arfer a gwelodd y lefelau achosion uchaf mewn pum mlynedd. Mae'n bosibl y bydd y DU – a Chymru – yn profi gweithgarwch ffliw tebyg.

Gyda Covid-19 hefyd yn mynd ar led, a phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl a diogelu'r GIG y gaeaf hwn.

Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n esbonio “Gall ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i’r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i ffliw. Mae'n hysbys mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw.

“Yn yr un modd, mae brechiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19 yn ymestyn yr amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol. Mae unrhyw sgil-effeithiau o'r brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir. Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 neu'r ffliw yn cael ei lleihau'n fawr drwy frechu, ac mae'r risgiau o ledaenu'r feirysau hyn yn lleihau hefyd. Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunan ac eraill y gaeaf hwn yn erbyn salwch difrifol.”

I hyrwyddo'r brechiadau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n annog y rhai sy'n gymwys i ‘ailwefru’ eu hamddiffyniad yn erbyn salwch difrifol y gaeaf hwn drwy gael y brechlynnau ffliw a Covid-19. Mae'r ymgyrch yn lansio ar 27 Medi gyda chynnwys digidol a chymdeithasol yn ogystal ag estyn allan i randdeiliaid a hysbysebion radio.

Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i'r heintiau. Mae hefyd yn bwysig iawn bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu'n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain yn cael eu brechlynnau er mwyn helpu i leihau lledaeniad y feirysau hyn.

I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa.’

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau, ewch i Brechlyn ffliw a phigiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19.