Neidio i'r prif gynnwy

Gwyliwch y cyfarfod cyhoeddus o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth | 28 Tachwedd 2024

The outside of Velindre University NHS Trust headquarters.

14 Tachwedd 2024

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnal ei rhith-gyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth yn gyhoeddus ar 28 Tachwedd 2024.

Bydd y cyhoedd yn gallu gwylio’r cyfarfod ar y platfform fideogynadledda Zoom.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng 10:00am and 2:00pm. Mae modd gweld y papurau a chofrestru eich diddordeb i ddod i'r cyfarfod nawr.

Fel aelod o'r cyhoedd, gallwch fynychu'r cyfarfod fel gwyliwr.  Mae hynny'n golygu y gallwch weld a chlywed y drafodaeth, ond ni fyddwch yn gallu cymryd rhan ynddo. 

Rydym yn bwriadu darparu recordiad fideo o'r cyfarfod, a fydd ar gael ar y wefan yn fuan wedyn. Am y rheswm hwnnw, rydym yn gofyn ichi beidio â recordio’r cyfarfod eich hun.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.