Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr y Gwirfoddolwyr ac ymweliad annisgwyl gan Uchel Siryf Morgannwg Ganol

31 Hydref 2023

Os cofiwch yn ôl at Wobrau Rhagoriaeth y Gweithlu, a byddwch yn cofio mai Llysgenhadon Ifanc Felindre, Seren a Morgan Lewis-Dawe, oedd enillwyr balch Gwobr Gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth.

Cafodd y ddau wirfoddolwr deinamig eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i'w cymuned leol yn Nhreherbert trwy eu menter unigryw, Veggies for Velindre, sydd wedi codi dros £2,000 i Elusen Felindre.

Ddydd Sadwrn 28 Hydref 2023, cafodd y teulu Dawe ei synnu gydag ymweliad gan yr Athro Jean White CBE, Uchel Siryf Morgannwg Ganol a’r Athro Donna Mead OBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, a ddaeth i gyflwyno’r wobr yn bersonol i Seren a Morgan.

Er gwaetha’r glaw trwm a roddodd ddigon o ddŵr i’r llysiau, bu’r cyflwyniad yn llwyddiant ysgubol ac yn syndod mawr i’n cefnogwyr ifanc. Roedd y digwyddiad yn achlysur llawen gan orffen gyda thaith fawreddog o amgylch y rhandir dan arweiniad y ddau Lysgennad Ifanc a oedd yn edrych ymlaen yn fawr at rannu eu prosiect a’u cymhelliant dros wneud gwahaniaeth.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r fenter gymunedol hon

Ewch i dudalen Facebook Veggies for Velindre yma!

Mae’r teulu Dawe wedi cyflawni eu blwyddyn gyntaf o gynhyrchu gan werthu cannoedd o blanhigion, codi miloedd o bunnoedd ac ysbrydoli llawer o ysgolion a chymdogion lleol ar hyd y ffordd.