Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr arobryn Macmillan i'r Tîm Tocsigedd Imiwnotherapi

14 Tachwedd 2023

Mae tîm arloesol yn Felindre wedi ennill gwobr genedlaethol arobryn am eu llwyddiant.

Cipiodd Gwasanaeth Tocsigedd Imiwnotherapi De-ddwyrain Cymru Wobr Rhagoriaeth Gweithwyr Proffesiynol Macmillan yr wythnos diwethaf yn y seremoni flynyddol yn Glasgow.

Curodd y tîm enwebeion eraill o amryw rannau o’r Deyrnas Unedig i ennill y Wobr Arloesi Rhagorol, am eu cymorth symlach i gleifion gyda thocsigeddau, o gydnabod y rhain yn gynnar i’w datrys ac i ryddhau’r cleifion.

O'r chwith i'r dde: Dr Senjuti Gupta, Rachel Gibbons, Hayley Mian, Dr Ricky Frazer, Valerie Harris a Dr Jo Ocen

Meddai Dr Jo Ocen, sy’n Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac yn Gyd-arweinydd ar y Gwasanaeth:

"Prif flaenoriaeth y gwasanaeth yw trin tocsigeddau ar ôl cael imiwnotherrapi, sydd yn aml yn gymhleth, er mwyn galluogi cleifion i barhau â'u triniaeth yn ddiogel.

"Rydym wedi manteisio ar gyfleoedd i greu llwybrau a datblygu cysylltiadau agosach â phartneriaid arbenigol yn y byrddau iechyd lleol, gyda'r nod o gynnig profiad mor ddi-dor â phosibl i gleifion."

Lansiwyd y gwasanaeth ym mis Medi 2022 ar ôl cael cyllid gwerth £830,000 gan Lywodraeth Cymru at y diben hwnnw. Mae’n rhan o brosiect sy’n bwriadu datblygu gwasanaethau canser ar yr un diwrnod er mwyn atal cleifion gyda chymhlethdodau rhag gorfod mynd i’r Adran Achosion Brys. Ymhlith ei fentrau mae gofal brys ar yr un diwrnod, canllawiau a llwybrau cadarn i safoni gofal i gleifion, a chydweithio ymysg tîm aml-ddisgyblaethol.

I rannu eu gwybodaeth â gweithwyr clinigol leded y DU, mae’r tîm wedi helpu i sefydlu a chydlyny Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Imiwnotherapi ac wedi cyd-greu podlediad wythnosol o’r enw ‘The Immunobuddies’.

Meddai Dr Ricky Frazer, sy’n Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac yn Gyd-arweinydd ar y Gwasanaeth:

“Mae imiwnotherapi’n wych, ond gall tocsigedd niweidio hyn.

“Os gallwn ni ganfod tocsigeddau’n gynt a’u trin cyn iddyn nhw fynd yn rhy niweidiol, gallwn ni gadw pobl ar driniaeth. Yn y bôn, dyna beth yw dymuniad y rhan fwyaf o gleifion, felly mae effaith bosibl y gwasanaeth ar daith a chanlyniadau cleifion yn wych.”