Neidio i'r prif gynnwy

Gweld yw credu. Sut rhoddodd rhoddwyr wyrth Nadolig i un teulu

Mae teulu merch ifanc a wnaeth oroesi canser ddwywaith yn annog pobl ar draws Cymru i roi'r rhodd orau posib y Nadolig hwn – y rhodd o fywyd.

Dim ond tair oed oedd Hannah Poole o Rydaman pan gafodd ddiagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Acíwt yn 2013. Ar ôl misoedd o gemotherapi caled, roedd ei theulu'n meddwl bod y gwaethaf y tu ôl iddyn nhw. Ond bum mlynedd yn ddiweddarach, dychwelodd y canser.

Er mwyn goroesi, roedd angen sawl trallwysiad celloedd gwaed coch a phlatennau ar Hannah i'w chadw'n ddigon cryf i dderbyn y driniaeth oedd ei hangen arni. Heddiw, yn 15 oed, mae hi wedi gwella'n llwyr ac yn edrych ymlaen at dreulio'r Nadolig gartref gyda'i theulu.

Meddai Hannah: “Dwi wrth fy modd gyda’r Nadolig. Dyma fy hoff adeg o'r flwyddyn, hyd yn oed pan oeddwn i'n sâl ac yn cael triniaeth. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bob rhoddwr gwaed a phlatennau yng Nghymru.

"Diolch i chi, rydw i'n cael creu mwy o atgofion Nadolig gyda fy nheulu."

Daeth ei thad, Adam, yn rhoddwr platennau ar ôl diagnosis cyntaf Hannah ac ers hynny, mae wedi rhoi mwy na 230 o roddion, gyda phob rhodd yn daith o 100 milltir (yno ac yn ôl). Mae pob taith yn ymrwymiad i roi cyfle bywyd i rywun, ac mae Adam yn dweud bod gwybod y gallai ei roddion helpu teuluoedd fel ei un ef yn gwneud pob milltir yn werth yr ymdrech.

“Mae’r Nadolig yn arbennig i’r rhan fwyaf o deuluoedd,” meddai Adam. “Ond i ni, mae’n golygu popeth. Dydyn ni byth yn anghofio na fyddai Hannah yma heb haelioni rhoddwyr gwaed a phlatennau.”

Ychwanegodd Katrina, ei mam: “Pan fyddwch chi'n rhoi gwaed, rydych chi'n rhoi'r rhodd orau bosibl, sef amser. Hebddoch chi, fyddai Hannah ddim yma gyda ni. Rydym mor ddiolchgar. Fe wnaeth ein hachub ni fel teulu. Ni fyddwn byth yn gallu diolch digon i roddwyr am beth maen nhw wedi’i wneud i Hannah.”

 

Pam mae rhoi gwaed, platyn a bôn-gelloedd yn bwysig

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu tua 350 o roddion gwaed bob dydd i gyflenwi 19 o ysbytai ar draws Cymru. Mae tua 70% o'r rhoddion hyn yn helpu cleifion fel Hannah, sy'n ymladd canser ac anhwylderau gwaed. Fodd bynnag, dim ond 3% o'r bobl sy'n gymwys i roi gwaed sy'n gwneud hynny.

Mae platennau yn arbennig o hanfodol i gleifion canser mewn achosion fel achos Hannah, ond dim ond am saith diwrnod maen nhw'n para, sy'n golygu bod eu hangen nhw drwy’r amser.

I rai cleifion â chanser y gwaed fel lewcemia, trawsblaniad bôn-gelloedd ydy’r siawns orau, ac weithiau, yr unig siawns o oroesi. Mae bôn-gelloedd yn helpu i ailadeiladu gwaed iach a systemau imiwnedd ar ôl triniaeth ddwys. Mae’n hawdd ymuno â'r gofrestr bôn-gelloedd, a gallai olygu mai chi yw'r person hynny sy’n cydweddu â rhywun ac sy'n achub bywyd rhywun.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn anelu at recriwtio mwy na 6,000 o bobl rhwng 30 a 45 oed a rhwng 16 a 16 oed o gefndiroedd du, Asiaidd, cymysg neu ethnig leiafrifol i'w cofrestr bôn-gelloedd bob blwyddyn. Gallwch ymuno â'r gofrestr drwy archebu pecyn swab i gael ei anfon i’ch cartref, neu drwy ofyn amdano yn ystod eich rhodd gwaed nesaf.

 

Gweld yw Credu

Y Nadolig diwethaf, derbyniodd Adam neges a oedd yn golygu mwy nag unrhyw anrheg. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi bod yn anfon neges destun at roddwyr pan fydd eu gwaed yn cyrraedd ysbyty, sy’n dangos gwir effaith eu haelioni. Gan fod Adam wedi rhoi rhodd yn yr wythnos cyn y Nadolig, roedd yn un o 126 o roddwyr a dderbyniodd y neges honno ar Ddydd Nadolig, gan wybod bod ei rodd yn helpu i achub bywydau.

"Roedd yn anhygoel," meddai Katrina. "Roedden ni'n eistedd ar y soffa ar ôl cael cinio Nadolig, yn teimlo'n ddiolchgar yn barod am allu treulio Nadolig arall gyda'n gilydd, ac edrychodd Adam ar ei ffôn ac roedd mewn sioc."

"Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth," ychwanegodd Adam.

"Rydym wedi cael gymaint o roddion sydd wedi rhoi mwy o Nadoligau i ni gyda Hannah fel teulu. Felly, roedd sylweddoli y gallwn i fod yn gwneud yr un peth i rywun yn yr ysbyty yn deimlad aruthrol."

 

Rhowch yr anrheg orau

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae straeon fel straeon Hannah yn ein hatgoffa ni pam mae rhoddion yn bwysig. Heb roddwyr gwaed a phlatennau, ni allwn gael diweddglo hapus fel hyn.

"Mae'r gaeaf yn un o'r cyfnodau mwyaf heriol i'r GIG. Gall afiechydon tymhorol, mwy o dderbyniadau i'r ysbyty a thywydd gwael i gyd effeithio ar nifer y rhoddion. Ar yr un pryd, dydy angen cleifion am y trallwysiadau hanfodol hyn ddim stopio. Dyna pam rydyn ni'n gofyn i bobl ddod ymlaen a rhoi gwaed.

"Os nad ydych chi erioed wedi rhoi gwaed o'r blaen, nawr yw'r amser. Os ydych chi’n rhoi gwaed yn barod, trefnwch eich apwyntiad nesaf, gallech chi helpu i achub bywyd y Nadolig hwn.”


Darganfyddwch ragor yma.