Neidio i'r prif gynnwy

Lansio gwasanaeth newydd i ganfod a thrin sgil effeithiau andwyol yn gyflym i gleifion imiwnotherapi yn ne-ddwyrain Cymru

Mae gwasanaeth arloesol newydd wedi ei lansio yng Nghanolfan Ganser Felindre i wella diogelwch cleifion trwy ganfod a thrin yn gyflym sgil effeithiau andwyol a all ddigwydd wrth gael triniaeth imiwnotherapi.

Bydd y Gwasanaeth Tocsigedd Imiwnotherapi ymatebol, a fydd yn dwyn budd i gleifion o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, yn canfod digwyddiadau andwyol sy’n ymwneud ag imiwnotherapi, neu ‘tocsigeddau’, ac yn hybu ymyrraeth gynnar er mwyn trin y sgil effeithiau hyn yn brydlon a’u datrys yn gynharach.

Mae imiwnotherapi’n cyfeirio at driniaethau sy’n defnyddio system yr imiwnedd i drechu canser, a gall meddyginiaeth Imiwno-oncoleg (IO) sicrhau canlyniadau rhagorol. Gallai canfod a thrin sgil effeithiau andwyol yn gynnar alluogi cleifion i gael triniaeth am fwy o amser a gallai leihau derbyniadau i’r ysbyty oherwydd sgil effeithiau sylweddol sy’n ymwneud ag imiwnotherapi.

Yn ôl amcangyfrifon diweddar, gallai triniaethau imiwnotherapi gynyddu 240% dros y pum mlynedd nesaf, fodd bynnag gallant weithiau achosi digwyddiadau andwyol. Fel arfer, dim ond 10% o gleifion sy’n cael imiwnotherapi ag un cyfrwng a fydd yn cael sgil effeithiau sylweddol.

 

 

Cafodd Canolfan Ganser Felindre £830,000 gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2021 er mwyn creu Gwasanaeth Tocsigedd Imiwnotherapi. Mae hwn yn rhan o brosiect dan arweiniad Dr Hilary Williams sy’n bwriadu datblygu gwasanaethau canser ar yr un diwrnod er mwyn cadw cleifion sydd â chymhlethdodau rhag Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Bydd y gwasanaeth yn dod yn rhan o’r llinell gymorth brysbennu bresennol a’r gofal argyfwng ychwanegol er mwyn sicrhau gofal 24/7 yn ne-ddwyrain Cymru. Yn rhan o’r Gwasanaeth, datblygwyd llwybrau gofal dydd arbennig er mwyn lleihau pwysau ar wasanaethau gofal acíwt ledled y rhanbarth. Mae cleifion eisoes yn elwa o’r gwasanaeth.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal o 9am tan 5pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a bydd gwasanaeth estynedig yn cael ei gynnal o 8pm tan 8am yn ystod yr wythnos ac ar y penwythnos. Bydd hwn yn cael ei ddarparu gan yr adran gofal dydd yng Nghanolfan Ganser Felindre, y llinell gymorth am driniaeth 24/7 a’r timau ar alw sydd wedi ehangu’n ddiweddar.