Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Gwaed Cymru yn croesawu menter dronau Dragon's Heart newydd, sydd yn cael ei ariannu gan y DU, i drawsnewid cludiant meddygol ar draws Cymru

7 Tachwedd 2025

Mae menter arloesol newydd sy'n anelu at chwyldroi cludiant meddygol yng Nghymru trwy ddefnyddio dronau sydd yn gweithredu heb ymyrraeth ddynol wedi cymryd cam mawr ymlaen, gan ddod â thechnoleg hedfanaeth arloesol a gwasanaethau gofal iechyd rheng flaen at ei gilydd.

Bydd y prosiect Dragon’s Heart, dan arweiniad Canolfan Awyrofod Eryri, mewn partneriaeth â Skyports Drone Services, SLiNK-TECH a Volant Autonomy, ac sydd yn cael ei ariannu gan Innovate UK, yn cyflymu datblygu rhwydwaith danfon dronau heb unrhyw ymyrraeth ddynol,  gyda'r bwriad o gefnogi gwasanaethau pwysig, gan gynnwys Gwasanaeth Gwaed Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae defnyddio dronau sydd yn gweithredu heb ymyrraeth ddynol ar gyfer danfoniadau meddygol yn cynnig manteision sylweddol i ofal iechyd yng Nghymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac anghysbell, lle gall trafnidiaeth draddodiadol fod yn arafach neu'n llai dibynadwy.

O ran danfoniadau meddygol pwysig, mae pob munud yn cyfrif, ac mae dronau'n darparu ateb cyflym ac effeithlon ar gyfer cludo cyflenwadau hanfodol fel cynhyrchion gwaed a samplau brys.

Drwy gyflymu'r broses o gyflenwi cynhyrchion gwaed i sefyllfaoedd brys a'i gwneud hi'n haws cludo cyflenwadau ar draws gwahanol leoliadau, mae'r dechnoleg hon yn helpu timau gofal iechyd i ymateb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol. Mae'n cefnogi gwasanaethau brys i wneud penderfyniadau clinigol amserol, ac yn cryfhau gallu cyffredinol gwasanaethau'r GIG yng Nghymru i reoli anghenion meddygol brys, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae mynediad yn fwy heriol.

Fel rhan o'r prosiect, bydd prototeip o safleoedd esgyn a glanio fertigol, o’r enw fertiportau, yn cael eu gosod yn ein pencadlys yn Nhonysguboriau, canolfan adnoddau'r Gwasanaethau Ambiwlans a Thân yn Wrecsam, a safle'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys/Ambiwlans Awyr Cymru yn Dafen, Llanelli. Bydd y cyfleusterau hyn yn dangos sut fydd yr hediadau'n gweithio, ac yn caniatáu i staff y GIG ymgysylltu â'r seilwaith newydd ac archwilio ei botensial i wella gofal cleifion.

Bydd y dechnoleg drôn sydd yn cael ei datblygu yn gallu canfod ac osgoi bygythiadau heb ymyrraeth ddynol yng nghanol hediad, gan sicrhau bod cyflenwadau meddygol fel cynhyrchion gwaed a samplau brys yn cael eu danfon yn ddiogel ac yn ddibynadwy.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru:

“Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn cynrychioli cam mawr ymlaen yn y ffordd y gallwn ddarparu cyflenwadau meddygol brys ar draws Cymru.

"Drwy gydweithio'n agos â'r ddau bartner yn y prosiect hwn, rydym yn archwilio ffyrdd arloesol o wella cyflymder, diogelwch a chyrhaeddiad ein systemau cludiant." Bydd defnyddio technoleg drôn yn ein helpu i wasanaethu cleifion a thimau'r GIG yn well, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac anodd eu cyrraedd, ac yn sicrhau bod adnoddau hanfodol yn cyrraedd lle mae eu hangen fwyaf.

"Mae Cymru yn lle perffaith i elwa o hyn oherwydd ein tirwedd, sy'n cyflwyno heriau logistaidd unigryw ar gyfer darparu gofal iechyd. Mae'r dechnoleg hon yn cynnig ateb ymarferol i oresgyn y rhwystrau hynny ac i wella canlyniadau i gleifion ar draws y wlad."

Dywedodd Jeremy Howitt, Cyfarwyddwr Technegol yng Nghanolfan Awyrofod Eryri:

“Rydym yn falch o fod yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yn ystod cam cyntaf cyllid Future Flight, lle gwnaethom archwilio sut y gallai technoleg drôn wella logisteg gofal iechyd ar draws Cymru. Mae'r cam nesaf hwn yn caniatáu inni fireinio elfennau technegol y system, gan integreiddio canllawiau hedfan heb ymyrraeth ddynol, radar ar y ddaear, a dronau sy’n danfon cynhyrchion meddygol i greu rhwydwaith diogel ac ymatebol.

"Yn hollbwysig, rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â Gwasanaeth Gwaed Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i sicrhau bod y system wedi'i chynllunio o amgylch anghenion ymarferol timau gofal iechyd rheng flaen." Gyda'n gilydd, rydym yn helpu i baratoi Cymru ar gyfer dronau, a sicrhau ei bod hi wedi’i chyfarparu’n well i ddarparu cyflenwadau meddygol brys yn gyflym ac yn ddiogel.”

Mae cam presennol y prosiect yn canolbwyntio ar dwf strategol ac ar arddangos yn rhanbarthol sut fydd y dechnoleg yn gweithio, a gosod y sylfaen ar gyfer prototeip o wasanaeth danfon drôn cwbl weithredol a fydd yn gweithredu o Wasanaethau Gwaed Cymru, Pencadlys Tonysguboriau erbyn 2027.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i archwilio atebion arloesol sy'n gwella darpariaeth gofal iechyd ac sy’n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion ar draws Cymru.