Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswr canser yn arwain ymgyrch newydd i hybu rhoddion gwaed yng Nghymru

Mae Martin Nicholls, goroeswr canser o Abertawe, wedi ymuno â Gwasanaeth Gwaed Cymru i lansio ymgyrch newydd sbon i annog busnesau ledled Cymru i achub bywydau

 

 

Nod yr ymgyrch newydd 'Make Blood Your Business' yw cau'r bwlch ar y 10,000 o roddion busnes a gollwyd bob blwyddyn yn dilyn y pandemig a'r cynnydd ym mhoblogrwydd gweithio hybrid, gyda mwy o staff bellach yn gweithio gartref.

 

Llwyddodd Martin i hybu rhoddion yn ardal Abertawe a’r cyffiniau ar ôl rhannu ei stori ac annog cydweithwyr i roi gwaed yn ei rôl fel Prif Weithredwr Cyngor Abertawe. Nawr, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn helpu mwy o sefydliadau i ddilyn yn ôl troed Martin i dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi gwaed trwy becyn cymorth newydd a adeiladwyd ar gyfer busnesau o bob maint.