Mae'n braf gennym gyhoeddi galwad agored i staff, cleifion neu ofalwyr gyflwyno eu lluniau ar gyfer yr arddangosfa gymunedol gyntaf yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Thema: Blwyddyn newydd, dechreuadau newydd; gobaith a gwella ym myd natur.
Trwy'r lens, rydyn ni'n ceisio tynnu sylw at rinweddau iachusol natur, a chipio'r harddwch, y gwytnwch a'r tawelwch sydd i'w cael ym myd natur.
Rydyn ni'n gwahodd ffotograffwyr i gyflwyno lluniau sy'n dwyn i gof themâu gobaith, adfer a gwella – boed hynny trwy dawelwch y wawr, blodyn yn blodeuo, neu goedwig ddistaw.
Bydd detholiad o luniau'n cael eu harddangos mewn arddangosfa yng Nghanolfan Ganser Felindre yng ngwanwyn 2025.
Canllawiau:
Sut i anfon eich llun:
Meini prawf ar gyfer dethol lluniau: Bydd cyflwyniadau'n cael eu hystyried ar sail creadigrwydd, effaith emosiynol, a chysylltiad â thema gobaith a gwella. Bydd panel o guraduron a gweithwyr meddygol proffesiynol yn dewis lluniau i'w cynnwys yn yr arddangosfa.
Dyddiadau pwysig:
Edrychwn ymlaen at weld eich lluniau!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd
Sally Thelwell
sally.thelwell@wales.nhs.uk