22 Mai 2025
Mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi lansio fideo animeiddiad newydd i addysgu cleifion sy’n cael eu trin ag imiwnotherapi atalydd rheolfa.
Mae’r fideo’n dangos sut mae’r driniaeth yn gweithio, y sgil-effeithiau posibl a sut i ddelio â nhw, a’r cyfan ar ffurf weledol.
Math o gyffuriau sy’n torri tir newydd yw imiwnotherapi atalydd rheolfa. Mae’n helpu’r system imiwnedd i adnabod celloedd canser ac ymosod arnynt, ac mae’n trin sawl math o ganser, gan gynnwys melanoma a chanser yr ysgyfaint.
Meddai Valerie Harris, Prif Nyrs Imiwnotherapi Gwasanaeth Canser Felindre:
“Roedden ni am greu adnodd diddorol sy’n darparu gwybodaeth gynhwysfawr ynglŷn ag atalyddion rheolfa imiwnotherapi.
“Mae ein fideo yn symleiddio gwybodaeth feddygol gymhleth ac yn ei chyflwyno mewn modd gweledol sy’n hawdd ei ddeall. Gall cleifion ei weld o gysur eu cartref eu hun a gwybod yn union sut i gael cymorth pan fydd angen.”
Hyd yn hyn, mae’r adborth ar y fideo wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt, gydag un claf yn dweud ei fod yn “llawn gwybodaeth a’i fod wedi ei drosleisio’n glir” ac un arall yn dweud ei fod yn “hawdd i’w wylio gyda gwybodaeth ddefnyddiol.”
Mae modd gweld y fideo isod yn Gymraeg ac yn Saesneg.