Neidio i'r prif gynnwy

Felindre'n cyflawni achrediad aur ar gyfer Techneg Aseptig Di-gyffwrdd

31 Ionawr 2023

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r sefydliad GIG cyntaf yng Nghymru i ennill achrediad aur ar gyfer Techneg Aseptig Di-gyffwrdd (ANTT).

ANTT yw’r dull strategol o atal heintiau sy’n ymwneud â gofal iechyd, a chafodd ei ddatblygu gan ddefnyddio tystiolaeth seiliedig ar ymchwil. Mae fframwaith ANTT yn gosod safon ddiogel ac effeithiol o weithio y mae modd ei defnyddio ym mhob triniaeth ac archwiliad clinigol, sy’n golygu llai o amrywiad a dryswch. Y brif egwyddor i’w dilyn yw diogelu’r ‘rhannau allweddol’ a’r ‘mannau allweddol’ er mwyn atal haint.

Hayley Harrison Jeffreys, Pennaeth Atal a Rheoli Heintiau, oedd yr arweinydd strategol ar gyfer gweithredu ANTT yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, sy'n cynnwys Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru.

"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn fwrdd neu ymddiriedolaeth iechyd cyntaf y GIG yng Nghymru i gyflawni achrediad aur ANTT," meddai Hayley, a arweiniodd y broses achredu.

"Mae ymroddiad ein staff heb ei ail, ac mae'r ffordd y gwnaethom fodloni’r her wedi fy ysbrydoli. Mae’n hanfodol ein bod ni’n dangos ein hymrwymiad i ddiogelwch cleifion, a bod gennym y prosesau llywodraethu clinigol cadarn ar waith, fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu'r gofal gorau posibl bob amser."

Mae achrediad ANTT yn seiliedig ar gael elfennau effeithiol ar waith ar gyfer polisi, addysg, asesu, a monitro. Mae llawer o fanteision i gyrraedd a chynnal safonau llym yr ANTT, fel:

  • Gwella diogelwch cleifion drwy gefnogi addysg effeithiol, asesu cymhwysedd, ac ymarfer clinigol diogel
  • Safoni techneg aseptig ar draws sefydliadau a gwledydd, a lleihau amrywioldeb mewn ymarfer
  • Darparu sylfaen ar gyfer llywodraethu clinigol effeithiol mewn perthynas â thechneg aseptig
  • Helpu i ddiogelu a rhoi sicrwydd i gleifion drwy ddarparu techneg aseptig mwy cyson, wedi’i safoni


Mae ANTT yn cael ei ddiffinio gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fel 'math penodol o dechneg aseptig gyda theori ac ymarfer unigryw.'

Mae'r Association for Safe Aseptic Practice (ASAP) yn sefydliad clinigol dielw yn y DU sy'n goruchwylio achrediad ANTT. Mae'r sefydliad yn cael ei redeg gan glinigwyr i wella safonau ac effeithiolrwydd techneg aseptig mewn ymarfer clinigol drwy addysg, hyfforddiant, ymarfer clinigol, ymchwil, sicrhau ansawdd, a chyngor i ddiwydiant.