Neidio i'r prif gynnwy

16 Mehefin 2025

Mae'n braf gan Wasanaeth Canser Felindre lansio Astudiaeth Rosalind yng Nghymru, sef menter ymchwil ryngwladol sydd â'r nod o ddeall nodweddion unigryw pobl sy'n goroesi mathau ymosodol o ganser er gwaethaf pob disgwyl.

Dan arweiniad Cure51, sy'n gwmni technoleg o Ffrainc, mae astudiaeth Rosalind yn ceisio datgelu'r ffactorau biolegol sy'n cyfrannu at gleifion canser yn goroesi am gyfnod eithriadol, hirdymor a datgelu gwybodaeth a allai greu llwybr ar gyfer triniaeth fwy effeithiol am ganser.

Meddai Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
"Mae'r ffaith fod gan Felindre ran allweddol yn yr ymchwil fyd-eang hon, i ddeall pam mae rhai pobl yn goroesi mathau penodol o ganser yn erbyn pob disgwyl clinigol, yn hynod o gyffrous.

Mae enw da gennym o ran ymchwil arloesol a newydd. Bydd defnyddio ein harbenigedd i gydweithio ar ymchwil ryngwladol arloesol yn trawsnewid y dyfodol o ran triniaeth am ganser ac yn gwella bywyd pobl yng Nghymru ac o gwmpas y byd.”

 

Meddai Dr Sahar Iqbal, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Gwasanaeth Canser Felindre:
“Mae Felindre yn chwilio’n benodol am bobl sydd wedi byw’n hirach na’r disgwyl gyda glioblastoma, math pellach o ganser yr ysgyfaint o fath celloedd bach, neu adenocarsinoma metastatig y pancreas.

Mae'n bosibl iawn bod eu gwybodaeth fiolegol yn allweddol er mwyn datblygu triniaethau a allai newid bywyd cleifion canser yn y dyfodol.

Os ydych chi'n credu eich bod chi wedi goroesi un o'r tri math hwn o ganser er gwaethaf pob disgwyl, rydyn ni am glywed gennych a chael eich caniatâd i gynnwys eich data a'ch samplau yn yr astudiaeth bwysig newydd hon.”

Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar unigolion sydd wedi herio'r annhebygol trwy oroesi naill ai math pellach o ganser yr ysgyfaint o fath celloedd bach neu adenocarsinoma metastatig y pancreas am fwy na phum mlynedd ers cael diagnosis, neu ganser glioblastoma yr ymennydd am fwy na thair blynedd.

Mae ymchwilwyr yn bwriadu casglu samplau o diwmor gan fwy na 1,000 o gleifion sy'n cydsynio o bob cwr o'r byd ac sydd ymhlith y tri y cant uchaf o ran goroesi canser.

Bydd y samplau'n cael eu dadansoddi gan Cure51 i ddod o hyd i dargedau therapiwtig newydd er mwyn seilio triniaethau trawsnewidiol newydd arnynt.

Meddai cyd-sylfaenwyr Cure51, Simon Istolainen a Nicolas Wolikow:
“Yn Cure51, rydyn ni'n gweithio i greu iachâd ar gyfer canser. Drwy harneisio technoleg, data, ac arbenigedd ein biolegwyr cyfrifiadurol ymroddedig, rydym yn ymdrechu i ddatgelu’r fioleg gudd y tu ôl i oroeswyr rhyfeddol.

Ein nod yw troi'r wybodaeth hon yn therapïau a allai un diwrnod drawsnewid canser yn gyflwr y mae modd i bawb ei reoli.

Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn ein hastudiaeth yn Felindre, sef ein safle cyntaf yng Nghymru, gan ymuno ag arbenigwyr mewn mwy na 40 o wledydd a 60 o safleoedd ledled y byd.

Mae Felindre yn un o wyth canolfan ganser yn y DU sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Enwyd Astudiaeth Rosalind ar ôl Rosalind Franklin. Mae ei gwaith arloesol ym maes bioleg foleciwlaidd yn parhau i ysbrydoli datblygiadau arloesol mewn ymchwil canser.

 

I gleifion yng Nghymru sy'n credu y gallent fod yn gymwys i gymryd rhan yn Astudiaeth Rosalind, e-bostiwch Wasanaeth Canser Felindre ar Rosalind.study@wales.nhs.uk