17 Ebrill 2025
Mae ymgynghorydd mewn oncoleg feddygol o Wasanaeth Canser Felindre wedi ei ethol yn is-lywydd clinigol nesaf Coleg Brenhinol y Meddygon.
Enillodd Dr Hilary Williams FRCP MbCHB PhD, sy'n arbenigo ar ganser y colon a'r rhefr ac sydd wedi helpu i ddatblygu oncoleg acíwt yng Nghymru, 56% o'r bleidlais dros fis o bleidleisio lle cafwyd y ganran uchaf o aelodau'n pleidleisio yn etholiadau'r coleg ers dros 20 mlynedd.
Bydd hi'n dechrau yn y rôl ar 1 Awst am dair blynedd ac yn parhau â'i hymarfer glinigol yn Felindre.
Wrth siarad â'r coleg, meddai Dr Hilary Williams: "Rwy'n falch iawn o gael ymgymryd â rôl is-lywydd clinigol y coleg. Byddaf yn gweithio gyda'r cymrodyr a'r aelodau i helpu meddygon i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion.
"Hoffwn i ddweud diolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi’r coleg dros y flwyddyn ddiwethaf ac i'r rheiny bleidleisiodd yn yr etholiad hwn, ac yn enwedig teulu'r coleg yng Nghymru, a fy nghydweithwyr yn Felindre a thîm y gyfarwyddiaeth feddygol yno. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi gyd."
Hyfforddodd Dr Williams yn Sheffield cyn cwblhau PhD yng Nghaeredin mewn imiwnoleg a firysau oncogenig. Mae hi wedi arwain a hybu oncoleg acíwt yng Ngwasanaeth Canser Felindre ac yng Nghymru, ac mae'n rhoi clod i Felindre am ei gyfraniad pwysig at ei datblygiad fel arweinydd clinigol.
Daeth yn gynghorydd rhanbarthol y coleg ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn 2018 cyn cael ei hethol i gyngor y coleg yn 2022 ac yn is-lywydd Cymru yn 2023.
Meddai Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, "Rwy'n hynod falch fod Hilary wedi llwyddo i gael y rôl hollbwysig hon. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd ei harweinyddiaeth ar waith yn llywio ei dyfodol a, heb os, yn dwyn budd i ni yn Felindre ac yng Nghymru, ac yn wir ledled y DU."
Meddai'r Athro Donna Mead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, "Rwy'n falch iawn o glywed am etholiad Hilary yn Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yn y DU, ond dydy hyn ddim yn syndod. Mae'r cyrhaeddiad nodedig hwn yn adlewyrchu ei hymroddiad a'i harbenigedd eithriadol, sef rhinweddau sydd wedi bod yn hanfodol wrth hybu gofal oncoleg yn Velindre.
"Ar ran y Bwrdd, dymunaf bob llwyddiant i ti yn ystod dy cyfnod yn y rôl hon. Rwy'n hyderus bydd dy angerdd a dy arweinyddiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar ofal iechyd ledled Cymru, y DU, a'r tu hwnt."