1 Gorffennaf 2024
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn dod yn ôl!
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ddechrau mis Hydref. Rydym yn galw arnoch i'n helpu i dynnu sylw at lwyddiant drwy enwebu ein staff ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl.
Boed yn rhoddwr, yn glaf, yn aelod o’r teulu neu’n aelod o’r cyhoedd, buasem wrth ein bodd petasech yn dod ymlaen ac enwebu rhywun y credwch sydd wedi darparu gofal neu wasanaeth rhagorol.
Gellir enwebu staff o Wasanaeth Gwaed Cymru, Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaethau Corfforaethol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y wobr hon. Mae hyn yn cynnwys yr holl staff clinigol, staff anghlinigol a myfyrwyr.
Bydd enillydd y wobr nid yn unig yn rhannu beth maen nhw wedi’i ddysgu o fewn ein sefydliad, ond gallant ysbrydoli arloesedd ar draws GIG Cymru hefyd. Drwy enwebu, gallwch chi chwarae rhan mewn helpu i wella safonau yn y gwasanaethau iechyd, a dweud diolch i'r rhai sy'n wirioneddol haeddu hynny.
Ydych chi'n adnabod rhywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac sy'n haeddu cydnabyddiaeth arbennig?
Llenwch y ffurflen | Enwebwch nawr. Dyddiad cau: Dydd Sadwrn 31 Awst 2024
Bydd y panel beirniadu yn cynnwys ystod eang o staff gan gynnwys arweinwyr pwnc, Cyfarwyddwyr Gweithredol, a chydweithwyr Undebau Llafur. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd pan gynhelir y seremoni wobrwyo yn gynnar ym mis Hydref 2024.